Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Annog trigolion Powys i ymuno ag Awr Ddaear 2024!

Earth

21 Mawrth 2024

Earth
Mae Cyngor Sir Powys yn annog trigolion y sir i ddangos eu cefnogaeth unwaith eto eleni ar gyfer Awr Ddaear - sef dathliad blynyddol, byd-eang o'n planed.

Ar ddydd Sadwrn, 23 Mawrth 23 am 8.30 yr hwyr bydd pobl ar draws y byd yn rhoi awr i'r Ddaear i gefnogi Awr Ddaear WWF 2024.

Mae'r ymgyrch hefyd yn galw ar bobl o bedwar ban byd i greu 'Awr Fwyaf y ddaear' trwy ddiffodd eu goleuadau a threulio 60 munud yn gwneud rhywbeth cadarnhaol er budd ein planed.

Yn ôl y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach "Fel cyngor, rydym yn annog ein trigolion i ymuno â'r miliynau o bobl, dinasoedd, cymunedau a thirnodau ar draws y byd i gefnogi'r digwyddiad hwn, a chymryd rhan yn ymgyrch amgylcheddol mwyaf y byd.

"Yn bersonol, rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at gefnogi Awr Ddaear ddydd Sadwrn, a helpu creu'r awr fwyaf ar y ddaear, a byddem yn annog ein cymunedau lleol a'n partneriaid ar draws Powys i ymuno â'r digwyddiad hefyd am 8.30pm.

"Ac yn bwysicach na dim, rydym hefyd yn annog pawb i ystyried ein gweithredoedd personol bob amser, bob dydd, ac effaith ein gweithredoedd ar yr amgylchedd."

Felly diffoddwch y goleuadau a rhowch awr ar gyfer y ddaear! Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.wwf.org.uk/cymru/awrddaear