Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Her Llyfrgell i'r teulu i gyd

Book

21 Mawrth 2024

Book
Mae sawl cystadleuaeth newydd wedi cael eu lansio yn dilyn Diwrnod y Llyfr, dywedodd y cyngor sir.

I ddathlu Diwrnod y Llyfr, a gynhaliwyd Ddydd Iau 7 Mawrth, mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cynnal cystadlaethau i blant oedran Cyn-ysgol, y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, yn ogystal â her newydd sbon i oedolion!

Gofynnir i blant oed Cyn-ysgol a'r Cyfnod Sylfaen greu eu hoff gymeriad allan o lyfr gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng. Ni ddylai'r dyluniad fod yn fwy na maint A3, nac yn llai na A4, a rhaid iddo fod mewn lliw cyflawn.

Gofynnir i blant CA2 (7 - 11 mlwydd oed) ysgrifennu stori gan ddefnyddio'r thema, 'Mae eu ffrind gorau wedi rhoi ei hoff lyfr iddynt, ac maen nhw'n darganfod fod pwerau hudol gan y llyfr. Beth yw pwerau hudol y llyfr a sut fyddan nhw'n eu defnyddio?'

Gofynnir i blant CA3 (11- 14 mlwydd oed) ysgrifennu stori nad yw'n hirach na 1000 gair ar y thema 'Mae'r Llyfrgell Wedi Torri'. Ym mha ffordd ydy'r llyfrgell wedi torri? Sut fyddan nhw'n ei drwsio? Gall y sawl sy'n cystadlu ddewis dehongli'r thema ym mha bynnag ffordd y maen nhw'n dymuno gwneud; gallai fod yn ffantasi epig sy'n cael ei ysbrydoli gan freuddwyd, antur anhygoel sy'n digwydd mewn byd arall, neu stori sydd fel bywyd go iawn wedi ei gosod mewn ysgol ddychmygol.

Y dyddiad cau i gystadlaethau'r plant fydd dydd Gwener 12 Ebrill.

Yr Her Darllen i Oedolion ar gyfer 2024 yw darllen 6 llyfr ar 6 thema a gwneud hynny erbyn dydd Iau 5 Medi er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'n ffantastig fod y cystadlaethau hyn yn ôl ar gyfer 2024, a buaswn yn wirioneddol annog pob plentyn o bob rhan o'r sir i gymryd rhan.

"Gyda'n bod ni wedi cael ein cynrychioli mor dda y llynedd, byddem ni wrth ein boddau o weld yr un faint, os nad mwy, o bobl yn cymryd rhan eleni. Mae yna hefyd her ffantastig i oedolion, felly beth am ddechrau darllen nawr fel bod cyfle i chi ennill gwobr? Ac os ydych chi eisoes yn darllen llawer, beth am gesio darllen rhywbeth gwahanol.

Am wybodaeth bellach ar y pedwar her, ewch i ymweld â'ch llyfrgell leol.