Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sesiynau galw mewn am uwchraddio digidol ar gyfer llinellau tir ffôn gyda BT

A person replacing the handset on a landline phone

28 Mawrth 2024

A person replacing the handset on a landline phone
Mae darparwyr ffôn yn symud y rhan fwyaf o gwsmeriaid llinellau tir i wasanaethau uwchraddedig sy'n defnyddio technoleg ddigidol rhwng nawr a 2025, gan gynnwys llawer sy'n byw ym Mhowys.

Bydd cwsmeriaid BT, EE a Plusnet, yn cael cais i newid i ddigidol y gwanwyn hwn, dywedodd BT, ond os oes unrhyw gwestiynau gennych am hyn, bydd yna gyfleoedd i'w gofyn mewn un o bedair sesiwn alw mewn a gynhelir yn y sir fis Ebrill.

Gallai hyn gynnwys ymholiadau am sut y byddech chi'n llwyddo i gysylltu â'r gwasanaethau brys pe bai toriad pŵer yn digwydd neu beth i'w wneud os oes dyfais teleofal gennych sy'n gysylltiedig â llinell ffôn.

Digwyddiadau ymgysylltu Llais Digidol BT:

  • Morrisons Y Drenewydd, Ffordd y Trallwng, Y Drenewydd, SY16 3AH, Dydd Mercher a Dydd Iau, 3 a 4 Ebrill, 10am - 4pm.
  • Morrisons Y Trallwng, Stryd Aberriw, Y Trallwng, SY21 7SS, Friday 5 Ebrill, 10am - 4pm.
  • Morrisons Aberhonddu, Heol Rydd, Aberhonddu, LD3 7SE, Dydd Iau, 30 Ebrill, 10am - 4pm.
  • Llyfrgell Llandrindod, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, LD1 6AA, Dydd Iau, 30 Ebrill, 10am - 4pm.

Cyhoeddodd BT ei amserlen ar gyfer uwchraddio yn yr hydref. Mae EE a Plusnet yn rhan o'r un grŵp o gwmnïau.

Beth os nad ydych chi'n gwsmer i BT, EE na Plusnet?

Bydd rhai o breswylwyr Powys wedi symud eisoes i linell dir ddigidol os ydynt wedi uwchraddio i fand eang ffeibr cyflawn, ond os nad ydych, yna dylai eich darparwr gysylltu â chi cyn iddynt eich trosglwyddo chi draw.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dibynnu ar ei linell dir neu'n defnyddio dyfais teleofal sydd wedi ei gysylltu â llinell ffôn fel mwclis, datgelydd codwm, neu larwm llinell bywyd personol, yna dylech hysbysu'r darparwr o'r gwasanaeth hwn fel ei fod yn gallu rhoi cyngor am sut y gallai'r newidiad effeithio arnoch chi.

Os nad ydych chi'n siŵr sut y gallai dyfais yn eich cartref neu fusnes gael ei effeithio, fe'ch argymhellir i gysylltu â'r darparwr offer neu wneuthurwr i ddarganfod a fydd yn parhau i weithio ar linell ffôn ddigidol. Ni all llinellau tir digidol gario cyswllt pŵer, felly, os fydd toriad pŵer, ni fyddant yn gweithio.

Gallwch barhau i ddefnyddio ffonau symudol, ond os nad oes unrhyw fodd arall gennych o alw'r gwasanaethau brys, dylai eich darparwr ffôn gynnig ateb i alluogi'r galwadau i gael eu gwneud mewn argyfwng. Am ragor o wybodaeth ewch i: trawsnewid o linellau tir analog i ddigidol yn y DU .

Dolenni defnyddiol eraill: