Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweithredoedd a Rheoliadau Eraill

River Marteg Meets River Wye - Marteg Bridge

Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ac Uwchgynadleddau'r Prif Weinidog

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o uwchgynadleddau wedi eu hanelu at ddatgloi tai fforddiadwy oddi fewn i ddalgylchoedd ACA. Y mae wedi paratoi cynllun gweithredu yn dilyn yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2022.  

Byrddau Rheoli Maethynnau

Mae rôl rhagweithiol gan Gyngor Sir Powys ar Fyrddau Rheoli Maethynnau Afonydd Gwy a Wysg.  

Afon Gwy

Mae Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Gwy, dan gadeiryddiaeth Cyngor Swydd Henffordd, yn cynnwys llawer o randdeiliaid. Mae'r Bwrdd yn draws ffiniol ac yn gyfrifol am "sicrhau bod Nodau Cadwraeth yn cael eu cyflenwi" ar gyfer ACA afon Gwy. I weld nodiadau ac eitemau agenda'r cyfarfod ewch i wefan: Cyngor Swydd Henffordd  .

Afon Wysg

Partneriaeth Dalgylch Wysg yw'r Bwrdd Rheoli Maethynnau ar gyfer Afon Wysg. Nid yn unig yw'r bartneriaeth yn mynd i'r afael â ffosfforws, ond hefyd materion fel llifogydd a rhywogaethau estron. Caiff y Bartneriaeth ei chadeirio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ei wefan Partneriaeth Dalgylch Afon Wysg.

Gofynion Rheoleiddiol Eraill

Yn ychwanegol at y caniatâd cynllunio, cyfrifoldeb yr ymgeiswyr a'r datblygwyr yw gwirio a chaffael unrhyw gydsynio neu drwydded arall sy'n ofynnol, fel y canlynol:

Trwyddedau Amgylcheddol

CNC yw'r corff sy'n gyfrifol am drwyddedau amgylcheddol a gellir dod o hyd i'w ganllawiau a chyngor fan hyn: Trwyddedau Amgylcheddol.

Cymeradwyo Cynlluniau Draenio Cynaliadwy (SuDS)

Mae cymeradwyo SuDS gan Gorff Cymeradwyo SuDS Powys yn ofyniad pan fydd datblygiad arfaethedig am fwy nag un tŷ, neu'r ardal adeiladu, yn 100m2 neu fwy. Mae rhagor o wybodaeth i'w chanfod ar ein gwefan: Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCS)