Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae Llyfrgell Ystradgynlais yn dychwelyd i'w chartref arferol ar ôl gwaith adnewyddu

The refurbished Ystradgynlais Library

8 Ebrill 2024

The refurbished Ystradgynlais Library
Mae gwaith uwchraddio Llyfrgell Ystradgynlais wedi cael ei gwblhau a bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i'r cartref arferol yn dilyn symud dros dro i'r Neuadd Les.

Bydd y llyfrgell, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Powys, yn cau yn y Neuadd Les am 1pm ddydd Gwener 12 Ebrill ac yn ailagor yn ei chartref arferol ar Temperance Lane, am 10am ddydd Llun 22 Ebrill.

Ymhlith y gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud i Lyfrgell Ystradgynlais mae'r canlynol:

  • Cyfleusterau gweithio o bell mewn ardaloedd cyfrinachol.
  • Podiau cyfarfod y gallwch eu harchebu ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb neu ddigidol.
  • 'Ystafelloedd Zoom' a gwagleoedd dysgu cysylltedd digidol a fydd yn cynnwys mynediad at weithgareddau gemau. 
  • Sbotolau ar dreftadaeth leol, gan gysylltu â chasgliadau a gweithgareddau diwylliannol ledled Powys a Chymru.
  • Corneli darllen ymlaciol.
  • Gwagleoedd siop dros dro i gynhyrchwyr lleol arddangos eu sgiliau.
  • Gwell mynediad i'r anabl, darpariaeth banc cynnes a gweithgareddau dysgu i blant.
  • Ardaloedd cymdeithasol cyfforddus a gwagle hyblyg i amrywiaeth o weithgareddau a thrafodaethau.
  • Datblygiad gardd ar gyfer gweithgareddau diwylliannol a dysgu amgylcheddol.
  • Uwchraddio seilwaith yr adeilad fel ei fod yn ynni-effeithlon - paneli solar â stôr batri, golau LED a gwell inswleiddio.

Disgwylir i Lyfrgell Ystradgynlais wedi ei hailwampio gael agoriad swyddogol yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Nina Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ar gyfer Cyngor Sir Powys: "Mae trawsnewidiad Llyfrgell Ystradgynlais yn ffantastig. Bydd yr ailfodelu yn bodloni'r cynnydd mewn gofynion cymunedol, gan ganolbwyntio'n fwy ar fynediad digidol a gefnogir mewn lleoliad cymunedol cyfarwydd.

"Ein gobaith yw y bydd y llyfrgell bellach yn cynnig yr anogaeth i bobl weithio'n lleol a lleihau'r angen am deithio. Hefyd bydd y cyfleuster wedi ei ailwampio a'i welliannau'n cyfrannu at leihau effeithiau amgylcheddol."

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn Llyfrgell Ystradgynlais ewch i wefan Stori Powys.

LLUN: Llyfrgell Ystradgynlais wedi ei hailwampio.