Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Wythnos Safonau Masnach Cymru: 'Gofyn am Drwbl'

Image of woman reading food label

15 Ebrill 2024

Image of woman reading food label
Mae Safonau Masnach Cymru yn cynghori defnyddwyr i fod yn ofalus ac i wirio'r disgrifiadau ar gynhyrchion bwyd y maent yn eu prynu, fel eu bod yn hyderus eu bod yn derbyn yr hyn y maent yn ei ddisgwyl ar ôl talu amdano.

Mae adroddiad Effeithiau a Chanlyniadau Safonau Masnach Cymru 2022/23 yn dangos bod dros 1,500 o fusnesau, yn ystod y cyfnod, wedi'u hadnabod yn cyflenwi bwyd a gam-ddisgrifiwyd, heb ddatgan alergenau'n gywir, yn cynnwys cydrannau gwenwynig neu anghyfreithlon neu wedi bod yn gysylltiedig â thwyll bwyd.  Er bod hyn yn cynrychioli canran isel o fusnesau bwyd, ni ellir tanbrisio pwysigrwydd cydymffurfio yn y sector hwn.

Yn ystod mis Mai i fis Awst 2023, ymwelodd grŵp Gwent Fwyaf â 102 o fusnesau bwyd, i archwilio cydymffurfiaeth.  Adroddwyd bod gan 24% labelu alergenau anghywir, ac nad oedd 16% wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth alergenau i staff, ac mewn 7% o fusnesau bwyd, nid oedd staff yn gallu lleoli na chael gafael ar wybodaeth am alergenau bwyd a ddarparwyd iddynt gan eu Gweithredwr Busnes Bwyd.  O ran labelu alergenau rhagofalus, gwnaeth 28% ddatganiad rhagofalus, ond dim ond 21% o'r rheini oedd wedi cynnal asesiad risg i benderfynu a oedd risg wirioneddol o groeshalogi.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau â'i gwaith gorsensitifrwydd bwyd ac yn ddiweddar mae wedi ymgynghori ar labelu alergenau rhagofalus.  Mae Safonau Masnach Cymru yn cefnogi datblygiadau sy'n ymwneud â gorsensitifrwydd ac yn parhau i weithio gyda busnesau a defnyddwyr i hyrwyddo ymwybyddiaeth o alergedd trwy hyrwyddo adnoddau alergenau amlieithog ymhellach. 

Mae gwaith pellach wedi'i wneud mewn busnesau bwyd i ystyried crebachu chwyddiant, disgrifiadau maint a phrisiau. 

Yn dilyn tystiolaeth a gasglwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sydd yn dangos bod tua thri chwarter y cyflenwyr brand mewn cynhyrchion fel fformiwla babanod, ffa pob, mayonnaise a bwyd anifeiliaid anwes wedi cynyddu eu proffidioldeb uned ac, wrth wneud hynny, wedi cyfrannu at chwyddiant prisiau bwyd uwch Cystadleuaeth, dewis a phrisiau cynyddol mewn bwydydd - GOV.UK (www.gov.uk); Chwyddiant prisiau a chystadleuaeth mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi bwyd a nwyddau - GOV.UK (www.gov.uk). Fe wnaeth Safonau Masnach yng Nghymru bwyso neu fesur dros 4,000 o gynhyrchion 'basged siopa' cyffredin.  Roedd yn dda nodi mai dim ond 2 gynnyrch oedd o fesur digon byr na ddylent fod wedi cael eu gwerthu.

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn parhau â'i waith yn y sector groser, ar hyn o bryd yn archwilio cynigion cardiau teyrngarwch Prisiau teyrngarwch yn y sector bwydydd - GOV.UK (www.gov.uk), ac mae gwasanaethau Safonau Masnach yng Nghymru yn cymryd rhan yn ymchwiliad yr Awdurdod i brisio.

Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae Safonau Masnach Cymru yn cynnig rhybudd i ddefnyddwyr wirio labeli cynhyrchion i fod yn hyderus yn eich pryniannau, a defnyddio prisiau uned yn y siop i benderfynu a yw'r cynnig o'ch blaen yn cyflwyno'r gwerth gorau am arian.  Os ydych yn newid eich brand o fwyd, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yr un alergenau yn bresennol mewn cynhyrchion o'r un math.  Yn yr un modd, efallai bod busnesau yn ail-fformiwleiddio eu cynhyrchion presennol i gadw costau i lawr, felly eto, daliwch ati i ddarllen labeli'r cynhyrchion rydych chi'n eu prynu'n gyffredin, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod yr alergenau sydd ynddynt. 

Yn olaf, tanysgrifiwch i https://www.food.gov.uk/news-alerts/subscribe a https://www.allergyuk.org/about-allergy/ am wybodaeth am alergenau a rhybuddion am gynnyrch sy'n cael eu had-alw oherwydd alergenau heb eu datgan.

Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.  Mae Adrannau Safonau Masnach yn derbyn hysbysiadau cwynion gan Gyngor ar Bopeth, sy'n ein helpu i dargedu busnesau twyllodrus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://safonaumasnach.llyw.cymru/cym/home/ ac https://www.youtube.com/channel/UCCkwuvUeOsoH0dd7MKYqquA

Gellir clywed y podlediad ar gyfer Diwrnod 1 yn: https://open.spotify.com/show/4XYiNC1upx0HpMSykWmWmd

Dilynwch ni ar "X" ("twitter" gynt) @WalesTS