Prosiectau Cronfa Ffyniant Cyffredin Prosiectau a Gymeradwywyd
Pumed Galwad ar gyfer Ceisiadau
Agorodd y pumed cyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Mawrth y 6 Chwefror 2024 a chaeodd am 23:59yh ddydd Sul y 3 Fawrth 2024.
Roedd y pumed galwad yn cael ei thargedu at y thema a'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:
1) Pobl a Sgiliau
- Buddsoddiad W37:Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfathrebu manteision mynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi'r hyder a'r ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
- Buddsoddiad W41: Cymorth ailhyfforddi ac uwchsgilio i'r rheini yn y sectorau carbon uchel, gan ganolbwyntio'n benodol ar drawsnewid i swyddi gwyrdd, a swyddi Diwydiant 4.0 a 5.0.
- Buddsoddiad W43: Cyllid i gefnogi ymgysylltu a datblygu sgiliau meddalach ar gyfer pobl ifanc, mewn perthynas â gwaith Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio.
Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Pumed Galwad Agored (5) (PDF, 57 KB)