Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Swyddog Masnachol

Commercial Services image 1
  • Swyddog Masnachol (Gradd Gyrfa)
  • Prentis blwyddyn 1af: 85% o'r cyflog arferol ar gyfer y swydd, yn seiliedig ar y pwynt isaf o'r raddfa gwerthuso swyddi, yn amodol ar ddarpariaethau Isafswm Cyflog Byw Gwirioneddol; - £23,632
  • Prentis 2il flwyddyn: 95% o'r cyflog arferol ar gyfer y swydd, yn seiliedig ar y pwynt isaf o'r raddfa gwerthuso swyddi, yn amodol ar ddarpariaethau Isafswm Cyflog Byw Gwirioneddol; - £26,412
  • Ar ôl derbyn y cymhwyster, byddwch yn derbyn cyflog ar raddfa gyflog ar amrediad rhwng £27,803 to £29,777 (Grade 7, SCP15 -19).

Mae hwn yn gyfle gwych i ddechrau gyrfa mewn caffael yn y sector cyhoeddus. Bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi i feithrin sgiliau a phrofiad o weithio mewn Tîm Gwasanaethau Masnachol arobryn yng Nghyngor Sir Powys.

Rydym yn chwilio am unigolyn cadarn ac ymroddedig sy'n barod i ddysgu a chymhwyso arbenigedd masnachol a datblygu perthnasoedd effeithiol.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo uwch gydweithwyr i ddarparu prosiectau tendro caffael ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau. Yn ogystal ag arwain ar brosiectau tendro syml a chynnal mân brosesau cystadleuol o dan fframweithiau sefydledig.

Mae hon yn rhaglen hyfforddiant 2 blynedd wedi'i graddio yn eich gyrfa lle cewch eich cynorthwyo i ennill profiad gwerthfawr a hefyd ymgymryd â hyfforddiant i sicrhau aelodaeth lawn o'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.

Ar ddiwedd y rhaglen hyfforddi cewch eich penodi (yn amodol ar berfformiad) i statws Swyddog Masnachol llawn.

Ein pecyn buddion

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwobrwyo ein gweithwyr am eu gwaith caled yn cefnogi ein cymunedau. Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion, dyfarniadau a chefnogaeth i'n gweithwyr i'w helpu i ffynnu yn eu gyrfa. Am ragor o fanylion, ewch i: Ein Cynnig i Chi - Cyngor Sir Powys

Ceisiadau a rhagor o wybodaeth

Am fanylion llawn ac i wneud cais ar-lein, ewch i'n prif wefan swyddi.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â wayne.welsby@powys.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai yn Saesneg.

Amserlenni

14/5/24 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 24 Mai 2024.