Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Ein Cynnig i Chi

Our Offer to You

 Rydym yn cydnabod pwysigrwydd grobrwyo ein gweithwyr an eu gwaith caled sy'n cefnogi ein cymundadau. Rydym yn cynnig amrywiaeth fawr o fanteision, dyfarniadau a chefnogaeth i'n gweithwyr i'w helpu i ffynnu yn eu gyrfa. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cyflog Cystadleuol

Ry'n ni'n cynnig cyflog cystadleuol ac yn gwobrwyo gwaith caled ein staff. Gallwch chi weld gwybodaeth lawn am gyflogau mewn swyddi gwag unigol yn ein swyddi gwag.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Hyfforddiant a Datblygiad o'r radd flaenaf

Ry'n ni'n buddsoddi yn ein gweithwyr i sicrhau bod y sgiliau a'r profiad iawn gennych i roi gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Powys.

Mae'r hyfforddiant yn cynnwys datblygiad gofal cymdeithasol proffesiynol, Technoleg Gwybodaeth a datblygiad gweinyddu a rheoli. Byddwch yn gallu galw ar oruchwylydd a fydd yn eich cefnogi yn eich datblygiad proffesiynol yn eich dewis swydd.

Cymorth dyslecsia - Mae gennym ein Swyddog Cefnogi Dyslecsia ein hunain a fydd yn gallu cefnogi a darparu gwybodaeth i aelodau staff y cyngor ar bob mater yn ymwneud â dyslecsia, yn ogystal â darparu gwasanaeth sgrinio dyslecsia.Dysgwch fwy am hyfforddiant a datblygiad staff 

Yn ôl i frig y tudalen

 

Lle gwych i fyw

Mae Powys yn sir drawiadol o hardd gyda golygfeydd a chymunedau hardd a gwledig, dirweddau ysblennydd, rhaeadrau, mannau agored gwyrdd i gerddwyr, beicwyr mynydd, marchogwyr a rhai sy'n ymddiddori mewn bywyd gwyllt. Mae'r rhain yn dod â nifer o fuddion i'r sir megis:

  • Sioe Frenhinol Cymru
  • Dyma gartref rhai o'r gwyliau gorau yn y DU - Mae Gŵyl Lenyddol Y Gelli'n denu awduron ac enwogion o fri ac erbyn hyn mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o'r prif
  • wyliau cerddoriaeth gyda Gŵyl Gomedi Machynlleth yn denu'r comediwyr gorau.
  • Cwm Elan
  • Gwefan Mid Wales My Way
  • Gwefan Symudwch i'r Canolbarth

Yn ôl i frig y tudalen

 

Pecynnau Ailgartrefu

Rydym yn cynnig lwfans adleoli cystadleuol o hyd at £8000 i weithwyr parhaol newydd eu penodi sy'n dod i breswylio yn Sir Powys (yn amodol ar gymhwysedd). Gall hyn helpu gyda chost treuliau symud, ffioedd cyfreithiol a ffioedd asiant, er enghraiff  Lwfansau sy'n daladwy i bolisi gweithwyr newydd 2023 (PDF, 201 KB)

Yn ôl i frig y tudalen

 

Iechyd a Llesiant

Mae Iechyd a Lles ein staff yn hollbwysig yng Nghyngor Sir Powys.

Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Rydym wedi ymrwymo i helpu ein gweithwyr i sicrhau'r cydbwysedd perffaith ac rydym yn dal i fod yn ymatebol i ddiwallu anghenion newidiol y gwasanaeth.

Lle bo hynny'n briodol a chan ddibynnu ar natur y rôl, mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cyfleoedd gwaith ystwyth a phatrymau gwaith hyblyg. Rydym wedi ymrwymo i helpu aelodau o'n tîm i gael y cydbwysedd perffaith ac ar yr un pryd, i barhau i fod yn ymatebol i ddiwallu anghenion newidiol ein gwasanaethau a'n cymunedau.

Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith iach gydag ymrwymiad i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfrifoldebau gofalu gan gynnwys polisïau Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu, Gwyliau Arbennig a Gweithio Hyblyg.

Gweithio hyblyg

Rydym yn cynnig gwahanol fathau o drefniadau gweithio hyblyg er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau gwell i gymuned Powys. Mae hyn yn cynnwys gweithio rhan amser, oriau hyblyg a gweithio gartref.

Iechyd galwedigaethol

Mae gennych fynediad at dîm Iechyd Galwedigaethol sydd wedi cymhwyso'n llawn i gynnig cymorth ac arweiniad proffesiynol ar ddarparu amgylchedd gwaith iach a diogel i'n gweithwyr.

Gwasanaeth Rhaglen Cymorth i Weithwyr Gofal yn Gyntaf

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl weithwyr y Cyngor ac mae'n rhoi mynediad at ystod o wasanaethau cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim, gan gynnwys cwnsela.

Prawf Llygaid

Os ydych chi'n ddefnyddiwr offer sgrin arddangos gweledol bydd y cyngor yn ad-dalu costau eich prawf llygaid a bydd hefyd yn cyfrannu tuag at eich sbectol os oes eu hangen fel rhan o'ch swydd.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Gwyliau Blynyddol

25 diwrnod + 4 ychwanegol ar ôl 5 mlynedd.

Prynu a Gwerthu Gwyliau Blynyddol

Bwriad y cynllun hwn yw cynorthwyo gweithwyr i gydbwyso eu hymrwymiadau cartref a gwaith. Pwrpas y Cynllun Prynu a Gwerthu Gwyliau Blynyddol yw rhoi hyblygrwydd ychwanegol i weithwyr mewn perthynas ag amser arfaethedig i ffwrdd o'r gwaith. Mae'r cynllun hwn yn rhoi cyfle i "brynu" hyd at 10 diwrnod (pro-rata lle bo'n briodol) gwyliau blynyddol ychwanegol ym mhob blwyddyn gwyliau. Ar ben hynny, mae gweithwyr yn gallu gwerthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol, yn amodol ar yr amodau.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Cynllun Buddion a Chynilon 

Fel un o weithwyr Cyngor Sir Powys byddwch yn gallu manteisio ar ein cynllun buddion a chynilon i'ch helpu i arbed cannoedd os nad miloedd bob blwyddyn. Byddwch yn cael gostyngiadau ar siopa ar y stryd fawr, siopa bwyd, teithio, bwyta allan, atyniadau a llawer mwy. Mae gostyngiadau gwych ac arian yn ôl ar gael mewn siopau fel Tesco, Marks & Spencer, Debenhams, Costa, B&Q, Hotels.com a Sainsbury's.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Ardderchog

Ry'n ni'n cynnig aelodaeth â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae cyfraniadau'n amrywio o 5.5% i 12.5% o gyflog pensiynadwy'n seiliedig ar faint rydych yn ei ennill.

Os ydych yn trosglwyddo o gyflogwr llywodraeth leol arall bydd eich gwasanaeth blaenorol yn cael ei gyfuno â'ch cyfraniadau newydd. Efallai y bydd gweithiwr newydd yn gallu trosglwyddo eu buddion o gynlluniau eraill hefyd.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Ein Cynnig Hyfforddi 

Mae gan staff Cyngor Sir Powys y cyfle i ofyn am hyfforddwr o'n rhwydwaith Hyfforddi, sy'n tyfu'n barhaus.

Ceir llawer o fanteision i hyfforddi, boed yn bersonol neu'n broffesiynol. Gall hyfforddwr helpu pobl i ddynodi nodau, dyfod yn fwy effeithiol yn eu rolau, cefnogi pobl i ddyfod yn arweinwyr gwell neu gyflawni nodau gyrfaol a dyrchafiadau.

Ceir hefyd gyfleoedd i staff ddyfod yn hyfforddwyr eu hunain, ynghyd â chreu cydberthnasau grêt ag eraill yn y rhwydwaith Hyfforddi a chefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

I ganfod rhagor - Rhwydwaith Hyfforddi Powys - Cyngor Sir Powys

Yn ôl i frig y tudalen

 

Cynllun Ceir Prydles

Mae'r Cyngor yn cynnig cynllun ceir prydles i bob gweithiwr parhaol sy'n gyrru mwy na 1000 milltir busnes y flwyddyn (Rolau i weithwyr nad ydynt yn addysgu). I gael gwybodaeth, cysylltwch â - leasecars@powys.gov.uk

Yn ôl i frig y tudalen

 

Cynllun Gwobrwyo

Fel gweithiwr o Gyngor Sir Powys, bydd gennych fynediad arbennig i'n cynllun buddion a chynilion i staff - Gwobrau Cyngor Powys, a fydd yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o fanteision, cynigion a gostyngiadau i'ch helpu i arbed arian ar eich gwariant bob dydd o eitemau ffordd o fyw, moduro, beicio, costau gofal plant a mwy!

EE Perks

Gall pob gweithiwr gael gostyngiad o 20% oddi ar eu rhent llinell fisol ar lwyth o'n cynlluniau, gan gynnwys tabled, SIM yn unig a chynlluniau band eang. Os ydych yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan Gyngor Sir Powys gyda rhif cyflogres presennol a mynediad i safle ee.co.uk, byddwch yn gymwys i gael y gostyngiad.

Aelodaeth Canolfan Hamdden

Gallwch gael gostyngiad ar gampfeydd ac aelodaeth chwaraeon ar draws pob canolfan hamdden ym Mhowys

Cycle 2 Work

Mae ein cynllun gwaith Beicio 2 yn caniatáu i weithwyr wneud arbedion enfawr ar feic ac ategolion newydd sbon, gallwch hefyd leihau gwariant diangen ar danwydd a pharcio yn ogystal â helpu i leihau allyriadau. Arbedwch o leiaf 32% ar feic newydd sbon ac ategolion beicio, yna lledaenu'r gost gyda thaliadau'n cael eu didynnu o'ch cyflog dros 12 - 18 mis.

Tusker

Gallwch hefyd wneud arbedion mawr ar gar newydd sbon. Mae cynllun Tusker yn eich galluogi i archebu eich hoff gar a adeiladwyd gyda'ch nodweddion dewisol a gallwch hefyd fanteisio ar y cynlluniau pecynnau moduro gan gynnwys yswiriant, treth ffordd ac ati. Mae'r holl fanteision anhygoel hyn yn cael eu cynnwys mewn un swm sy'n cael ei gymryd o'ch cyflog misol.

Undebau Llafur

Gallwch ymuno ag unrhyw Undeb Llafur ac mae'r cynrychiolwyr o GMB, Unsain ac Unite ar gael yn rhwydd ledled y Sir.

Taleb Gofal Plant

Gallwch ddewis aberthu rhywfaint o'ch cyflog fel yswiriant di-dreth a chenedlaethol wedi'i eithrio.

Yn ôl i frig y tudalen

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu