Swyddog Rheoli Contractau Strategol
- Swyddog Rheoli Contractau Strategol
- £35,745 - £37,336
Mae hon yn rôl newydd a bydd yn allweddol wrth wella rheolaeth contractau ar draws y sefydliad. Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth gref am egwyddorion rheoli contractau a bydd yn arweinydd gweithredol ar gyfer gwella rheolaeth contractau ar draws y Cyngor. Bydd gweithgareddau allweddol yn cynnwys, datblygu fframwaith safonol o brosesau rheoli contractau, gwell adnabyddiaeth a lliniaru risg yn y gadwyn gyflenwi, ynghyd ag arwain rhaglen hyfforddi a datblygu sgiliau i wella sgiliau rheoli contractau ar draws y Cyngor.
Ein pecyn buddion
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwobrwyo ein gweithwyr am eu gwaith caled yn cefnogi ein cymunedau. Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion, gwobrau a chefnogaeth i'n gweithwyr i'w helpu i ffynnu yn eu gyrfa. Am ragor o fanylion, ewch i: Ein Cynnig i Chi - Cyngor Sir Powys
Ceisiadau a rhagor o wybodaeth
Am fanylion llawn ac i wneud cais ar-lein, ewch i'n prif wefan swyddi.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â wayne.welsby@powys.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai yn Saesneg.
Amserlenni
14/5/24 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 23 Mai 2024.