Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol

Commercial Services image 3
  • Lefel 2 Arbenigwr Masnachol 2 (x 2 swydd wag)
  • £38,223 - £40,221

Mae gennym ddwy swydd wag i Arbenigwyr Masnachol ymuno â'n tîm Gwasanaethau Masnachol arobryn yng Nghyngor Sir Powys.

Bydd deiliaid y swydd yn arwain ar amrywiaeth o brosiectau caffael mewn categorïau allweddol o wariant fel TGCh, gofal cymdeithasol, corfforaethol ac ati. Mae hyn yn cynnwys arwain ar brosiectau tendro ar gyfer ystod eang o nwyddau, gwaith a gwasanaethau.

Gallech fod yn gweithio gyda nifer o wahanol wasanaethau felly mae'n bwysig eich bod yn gallu meithrin perthnasoedd effeithiol ar bob lefel a bod yn weithiwr proffesiynol cadarn, sy'n perfformio'n dda.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad o gaffael - naill ai o'r sector cyhoeddus neu'r sector preifat - er y bydd gwybodaeth gref am reoliadau caffael y sector cyhoeddus yn hanfodol.

Byddwch yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn yn y rôl hon ac ymuno â thîm i helpu i gefnogi'r sefydliad i reoli ei wariant dan gontract ac ymdrechu i wneud gwelliannau parhaus.

Ein pecyn buddion

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwobrwyo ein gweithwyr am eu gwaith caled yn cefnogi ein cymunedau. Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion, gwobrau a chefnogaeth i'n gweithwyr i'w helpu i ffynnu yn eu gyrfa. Am ragor o fanylion, ewch i: Ein Cynnig i Chi - Cyngor Sir Powys

Ceisiadau a rhagor o wybodaeth

Am fanylion llawn ac i wneud cais ar-lein, ewch i'n prif wefan swyddi.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â wayne.welsby@powys.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai yn Saesneg.

Amserlenni

14/5/24 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 22 Mai 2024.