Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cyngor yn prynu cyn eiddo hawl-i-brynu yn sgil cynllun prynu'n ôl

Image of council housing

8 Mai 2024

Image of council housing
Cafodd pymtheg o gyn eiddo hawl-i-brynu i eu prynu'n ôl gan Gyngor Sir Powys yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf fel rhan o gynllun i ddarparu mwy o gartrefi i'w rhentu.

Mae'r cynllun prynu'n ôl yn helpu'r cyngor i gyflawni ei 'Cartrefi ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai', sef rhaglen bum mlynedd lle bydd y cyngor yn darparu mwy o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol.

Mae'r cynllun yn ffordd effeithiol o ychwanegu at stoc bresennol y cyngor o gartrefi i'w rhentu a bydd yn helpu i leddfu'r pwysau cynyddol ar argaeledd cartrefi fforddiadwy i'w rhentu ym Mhowys.

Os ydych chi'n berchen ar hen eiddo hawl-i-brynu ym Mhowys, yn bwriadu ei werthu ac wedi cael prisiad annibynnol o'r eiddo, yna hoffai'r cyngor glywed gennych.

i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun prynu'n ôl, anfonwch e-bost i affordablehousing@powys.gov.uk gan gynnwys gwybodaeth am eich eiddo.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Powys Tecach: "Mae gan y cyngor gynllun uchelgeisiol i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir.

"Diolch i Lywodraeth Cymru, mae cynghorau yng Nghymru unwaith eto yn gallu adeiladu mwy o gartrefi a phrynu cyn-dai cyngor yn ôl.

"Bydd ein cynllun prynu'n ôl yn ein galluogi i brynu tai cyngor a werthwyd yn flaenorol fel rhan o'r rhaglen hawl-i-brynu.

"Drwy brynu'n ôl tai oedd unwaith yn destun hawl-i-brynu, ynghyd ag adeiladu tai cyngor newydd, nid yn unig yr ydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu mwy o dai cymdeithasol, sy'n diwallu anghenion ein preswylwyr, ond rydym hefyd yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys."