Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Chwarae a Natur Newydd i Landrindod

Image of the opening of the Llandrindod Wells Nature and Play Park

10 Mai 2024

Image of the opening of the Llandrindod Wells Nature and Play Park
Cafodd Parc Chwarae a Natur newydd ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn (4 Mai) ym Mharc Tremont yn Llandrindod.

Mae'r gwagle cymunedol newydd hwn yn hafan i natur, gan hefyd ddarparu maes chwarae ac ardal chwarae ddiogel ac atyniadol. Cafodd ei ddylunio, ei ddatblygu a'i wneud yn bosibl gan Bartneriaeth Natur Powys, ac mae'r parc newydd yn anelu at wella bioamrywiaeth a gwella ein cysylltiad a mynediad at natur oddi fewn i'n hamgylcheddau lleol.

Ynghyd ag aelodau eraill Partneriaeth Natur Powys, gweithiodd Cyngor Sir Powys, Cyngor Tref Llandrindod ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed gyda'i gilydd i ddarparu'r cyfleuster natur hyfryd hwn- a oedd yn bosibl gydag arian oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Bydd ymwelwyr â Pharc Natur a Pharc Chwarae Tremont yn darganfod perllan fach a llain berlysiau fwytadwy yn y gwlâu plannu newydd. Cafodd llawer o blanhigion blodau gwyllt, fel blodau binc-goch Blodyn y Neidr a Charpiog y Gors, eu cyflwyno i gydweddu â chynefin presennol y ddôl gorsiog a'r prysgwydd coed helyg. Mae llwybr glaswelltog yn eich arwain drwy'r parc natur ble y gallwch ddod o hyd i le i eistedd a bwrdd picnic â phergola derw - y lle perffaith i ymlacio a mwynhau natur leol. .

"Mae'r prosiect cymunedol hwn yn enghraifft wych o sut y gall gweithio ynghyd helpu i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur mewn ardaloedd trefol a di-natur yn flaenorol." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae ein llesiant meddyliol a chorfforol yn elwa wrth dreulio amser ym myd natur, felly yn ogystal â bod yn fwy cynaliadwy i natur ffynnu, bydd y gymuned leol o gwmpas Parc Tremont hefyd yn elwa drwy gael lle i fwynhau'r manteision o dreulio amser ym myd natur.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chymunedau lleol eraill i ddatblygu ardaloedd natur pellach ledled y sir yn y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Marcia Morgan, Cadeirydd Cyngor Tref Llandrindod: "Rydym ni wedi bod wrth ein boddau o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys i gael a datblygu'r tir gyferbyn â Pharc Tremont i ffurfio'r cyfuniad hwn o barc chwarae a pharc natur i'r gymuned leol.

"Gwnaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed ac aelodau'r Cyngor Tref wirfoddoli i ddatblygu'r ardal hon. Cafodd offer chwarae newydd eu gosod ac elfennau naturiol eu cyflwyno i wneud y mwyaf o botensial y parc chwarae a natur hwn fel rhan o'r prosiect bioamrywiaeth, chwarae confensiynol a naturiol mewn ardal i bawb sy'n gyfeillgar i natur. Mae'r seddi wedi eu gosod mewn ffordd feddylgar fel bod ymwelwyr yn gallu mwynhau prydferthwch natur o'u cwmpas.

"Gyda'i fod ar agor ac wedi ei gwblhau bellach, bydd Parc Chwarae a Natur Tremont o dan berchnogaeth Cyngor Tref Llandrindod ac yn cael ei reoli ganddynt, a gobeithiwn y bydd pawb yn mwynhau'r lle unigryw ac arbennig hwn."

Ffoto gan Andy Compton.
Chwith i'r Dde: Cllr Lawrence Weerdmeester-Price, Sian Barnes, Cllr Jamie Jones, Cllr Marcia Morgan (Maer), Cllr Steve Deeks-D'Silva, Ben Mullen