Toglo gwelededd dewislen symudol

Pythefnos i fynd tan Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Image of visitors to the Urdd Eisteddfod

13 Mai 2024

Image of visitors to the Urdd Eisteddfod
Ymhen pythefnos yn unig, bydd pobl ifanc a'u teuluoedd o bob rhan o Gymru yn cael croeso cynnes ym Mhowys pan fydd un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop yn mynd rhagddi.

Mae cymunedau ledled Powys yn dechrau cyffroi am Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, a gaiff ei chynnal ar gaeau Fferm Mathrafal ger Meifod rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin

Mae Cyngor Sir Powys yn hynod o falch fod y digwyddiad mawreddog hwn yn cael ei gynnal yn y sir ac wedi bod yn gweithio'n agos at yr Urdd, y pwyllgor trefnu lleol, cymunedau lleol, busnesau a gwirfoddolwyr i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Eisteddfod yr Urdd.

Bydd presenoldeb amlwg gan y cyngor ar Faes yr Eisteddfod a bydd yn defnyddio'r wythnos fel cyfle i arddangos Powys i bawb sy'n dod - drwy flasu nwyddau lleol, twristiaeth a diwylliant i hyrwyddo'r Gymraeg a gweithgareddau Cymraeg yn ogystal â chyfleoedd recriwtio yn y cyngor.

Bydd plant a phobl ifanc yn gallu cyfranogi yn yr hwyl a'r gweithgareddau hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym ni'n llawn cyffro ac mae'n anrhydedd fawr i ni fod Eisteddfod yr Urdd 2024 yn digwydd ym Mhowys, a byddwn yn croesawu plant a phobl ifanc a'u teuluoedd o bob rhan o Gymru wrth iddynt gyfranogi yn yr ŵyl arbennig hon.

"Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ddiwethaf yn Sir Drefaldwyn ym 1988 ac mae'r cyffro wedi bod ar gynnydd ers tro wrth i'r ŵyl ddynesu.

"Mae Cyngor Sir Powys yn hynod o falch o gefnogi'r eisteddfod eleni. Rwy'n edrych ymlaen at yr wythnos ac rwy'n annog plant a phobl ifanc, teuluoedd a ffrindiau ledled Powys i fanteisio ar y cyfle i ymweld â'r Eisteddfod ger Meifod."