Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno gwobrau i rieni maeth a seiclwr treial

Chair with Silver Kite award winners

13 Mai 2024

Chair with Silver Kite award winners
Mae pump o rieni maeth a thalent sy'n dod i'r golwg ym maes seiclo treial ymhlith preswylwyr diweddaraf Powys i dderbyn gwobrau Barcud Arian.

Mewn seremoni a gynhaliwyd ddydd Iau 25 Ebrill yn Neuadd y Sir, Llandrindod, cyflwynodd Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Beverley Baynham, wobrau Barcud Arian i chwech o bobl am eu llwyddiannau neu ymroddiad eithriadol i'w cymunedau. Yn eu plith mae:

  • Heather Summerfield, o Dalgarth; mae hi'n aelod allweddol o'r gymuned ac wedi rhedeg siop bapur newydd a nwyddau cyffredinol ar y Stryd Fawr ers dros 30 o flynyddoedd, ar y cyd â'i gŵr. Mae hi'n aelod ac yn gefnogwr brwd o lawer o grwpiau lleol, â hithau'n sylfaenydd i ddau ohonynt yn ogystal â bod yn Llywodraethwr Ysgol Gynradd Gymunedol Talgarth, ble y bu'n Gadeirydd ers degawd. Ynghyd â hyn oll, mae hi a Brian hefyd wedi bod yn rhieni maeth/mabwysiedig i nifer sylweddol o bobl dros y degawdau.
  • Mae Janwyn ac Alec Baker, o Raeadr yn dathlu dros 23 o flynyddoedd o fod yn rhan o deulu maethu Powys yn ddiweddarach eleni, ac yn ystod y cyfnod hwn maen nhw'n wedi gofalu am amrywiaeth eang o blant, yn ogystal â mabwysiadu plentyn ac maen nhw yn y broses o fabwysiadu eto. Mae un o'r oedolion ifanc y buon nhw'n gofalu ar ei ôl erbyn hyn yn ofalwr maeth cymeradwy ei hun bellach.
  • Mae Brianna King, o Lanllŷr yn rhagori yn y gamp o Seiclo Treial, ac wedi bod yn seiclo ers ei bod yn bum mlwydd oed. Cafodd gydnabyddiaeth am ei hymroddiad y llynedd pan ddaeth hi'n Bencampwr Prydain 50 50 Dosbarth A Merched. Ers iddi hi gyrraedd y brig yn nosbarth y merched, mae Brianna bellach yn cystadlu ag oedolion ac yn mynd o nerth i nerth gan ennill sawl gwaith eleni mewn amrywiol gystadlaethau. Mae Brianna wedi teithio ledled Ewrop, ac yn ei hamser sbâr mae hi hefyd yn codi arian i Mind Canolbarth Cymru ac yn mynychu'r coleg.
  • Cafodd Audrey ac Alun Lewis, o Lanfair-ym-Muallt eu cymeradwyo gan y tîm maethu yn 1994, gan ddarparu gofal i lawer o bobl ifanc. Erbyn 2009, roedden nhw'n gofalu'n hir dymor am dri o bobl ifanc, ac roedd Awtistiaeth ac ADHD gan un ohonynt. Gwnaeth Audrey ac Alun y penderfyniad i ddyfod yn Warcheidwaid Arbennig dros y plant, symudiad a ddarparodd sicrwydd hir dymor i'r bobl ifanc hyn ac ymrwymiad i'w cefnogi nhw drwy gydol eu harddegau ac yn y dyfodol. Ar ôl i'r tri gyrraedd oedran oedolyn, dychwelodd Audrey ac Alun at faethu a chael eu hail-gymeradwyo yn 2015. Ers hynny maen nhw wedi parhau i ofalu am blant yn eu harddegau, gan barhau i gynnal eu hymroddiad i gefnogi'r oedolion ifanc yr oedden nhw'n Warchodwyr Arbennig drostynt.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Beverley Baynham: "Hoffwn ddiolch i'r rheini a dreuliodd amser i gyflwyno'r enwebiadau hyn. Mae'n anrhydedd ac yn fraint fawr i gyflwyno'r chwech o breswylwyr hyn gyda'u gwobrau.

"Roedd yr holl enillwyr yn haeddiannol am amrywiaeth o resymau gwahanol, ond roedd pob un yr un mor deilwng â'r llall ac rwy'n gobeithio bydd y wobr hon yn dangos peth cydnabyddiaeth am y gwaith, cyflawniad a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau ym Mhowys.

"Mae pob un ohonynt wedi dangos perfformiad eithriadol, neu wedi gwneud gwir wahaniaeth i'w cymunedau ac maen nhw'n wirioneddol haeddu eu gwobr. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd."

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â theulu maethu Powys ewch i: https://powys.maethucymru.llyw.cymru/ 

Mae dyfarniadau Gwobrau Barcud Arian yn ddyfarniadau dinesig sy'n cael eu cyflwyno i bobl sy'n byw ym Mhowys ac sydd wedi mynd i'r eithaf a thu hwnt yn eu cymuned neu wedi cyflawni rhywbeth eithriadol yn eu maes. Caiff enwebiadau eu gwneud i Gadeirydd y Cyngor drwy gydol y flwyddyn gan Gynghorwyr a'u dyfarnu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.