Toglo gwelededd dewislen symudol

Sophia yn rhannu rysáit ei theulu maeth mewn llyfr coginio newydd sy'n cael ei gefnogi gan enwogion.

Family around the table

14 Mai 2024

Family around the table
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru Powys yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dyfod yn ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

 

Mae ymchwil ddiweddar gan Faethu Cymru - sef rhwydwaith cenedlaethol gwasanaethau maethu'r awdurdod lleol - yn dangos nad yw pobl yn gwneud cais i ddyfod yn ofalwyr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau na'r profiad 'cywir'.

 

Yn eu llyfr newydd - Dewch â rhywbeth at y bwrdd- a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Faethu Cymru, amlygir y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig - fel sicrhau pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda'r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau bwyd newydd.

 

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y llyfr coginio. Cafodd darluniadau'r llyfr eu creu gan Sophia Warner, sy'n ddarlunydd ac ymgyrchydd â phrofiad o fod mewn gofal ei hun, hi hefyd ysgrifennodd y rhagair i'r llyfr:

"Pan oeddwn i'n iau, dw i'n cofio croesholi fy mam faeth ynglŷn â tharddiad y bwyd y byddai'n ei baratoi. Roeddwn i'n mynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, sef milltir sgwâr fy mhlentyndod. Fe ysgrifennais 'Bolognese Aberhonddu' ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

 

"Mae'r rysáit hon yn annwyl iawn i mi, gan mai dyma'r pryd o fwyd cyntaf ges i pan symudais i mewn i'm cartref maeth. Soniais fod fy mam enedigol arfer ei baratoi i mi, ac aeth fy mam faeth ati i'w baratoi i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, cefais deimlad cynnes - teimlais fy mod yn perthyn a chefais groeso cynnes."

 

Mae angen rhagor o deuluoedd maeth ledled Cymru

 

Yng Nghymru mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd. Mae Maethu Cymru wedi cychwyn ar eu nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar Gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae'n ffantastig fod Sophia, un o'n pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, wedi bod mor gysylltiedig â'r llyfr newydd hwn sy'n llawn ryseitiau a phrofiadau maethu sy'n newid bywydau oddi wrth ofalwyr a phobl sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal.

"Diolch yn fawr iawn i chi Sophia, ac hefyd i'n pobl ifanc eraill sydd wedi mynd ati i rannu eu straeon a chydnabod y gwahaniaeth wnaeth gofalwyr maeth iddyn nhw.

 

"Mae pythefnos Gofal Maeth yn gyfle unwaith yn rhagor i ni ddiolch i'n gofalwyr maeth am y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud i gefnogi ein pobl ifanc ym Mhowys, gan eu gwneud nhw i deimlo'n ddiogel a'u bod yn derbyn croeso a gofal. Mae'r llyfr yn dangos mai'r pethau syml yr ydym yn eu cynnig i blant sy'n aml yn gallu gwneud gwahaniaeth anferthol.

 

"Mae angen amrywiaeth eang o bobl arnom i ddyfod yn ofalwyr maeth i alluogi ein plant i aros yn agos at eu cymunedau yma ym Mhowys. Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch gefnogi person ifanc a byddwn yn annog unrhyw un sy'n meddwl am faethu i gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol."

 

Mae ganDewch â rhywbeth at y bwrdddros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned ofal maeth a chogyddion enwog.

 

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; beirniad Young MasterChef, Poppy O'Toole; a'r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys yr athletwraig a'r ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a fu mewn gofal ei hun.

 

Fe gyfrannodd cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a'r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean ryseitiau hefyd - gan dynnu o'u profiadau personol fel gofalwyr maeth.

 

Bydd y llyfr coginio'n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru, a gellir lawrlwytho fersiwn digidol yma:www.maethucymru.llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddyfod yn ofalwr maeth ewchhttps://powys.maethucymru.llyw.cymru/ffoniwch 0800 223 0627