Profiad gwaith gyda chyflog
14 Mai 2024
Mae Cyngor Sir Powys wedi cael mynediad at arian oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin (cynllun Ffyniant Bro DU) i gynnig amrywiaeth o leoliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys sydd â chyfrifoldeb dros AD: "Rydym ni wrth ein boddau o fod yn rhedeg y prosiect hwn sy'n cynnig cyfle ffantastig i weithio, dysgu a chael sgiliau newydd gwerthfawr.
"Felly, mae yna leoliad i chi os ydych chi'n un sy'n mwynhau'r awyr agored, chwaraeon neu weithgaredd corfforol, , Iechyd yr Amgylchedd, neu os oes diddordeb gennych mewn gofal cymdeithasol, ymchwil data neu ailgylchu."
Dyma'r swyddi sydd ar agor nawr i dderbyn eich ceisiadau:
- Cydlynydd Cynorthwyol Gwirfoddolwyr (Mynediad i Gefn Gwlad)
- Ymchwilydd Prosiect Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant
- Cynorthwyydd Mynediad i Gefn Gwlad
- Cydlynydd Data ac Adnoddau (Gwasanaethau Plant)
- Swyddog Graddedig Iechyd yr Amgylchedd
- Swyddog Datblygu Chwaraeon a Chymunedau Actif
- Cynorthwyydd Ymwybyddiaeth Gwastraff
Am fanylion ac i ymgeisio ewch i: https://cy.powys.gov.uk/swyddigwag?kw=profiad+gwaith