Nam ar y ddau synnwyr
Os oes gennych nam ar y ddau synnwyr, hynny yw, yn cael anawsterau gyda'ch clyw a'r golwg, gall achosi problemau gyda:
- symud a mynd o un lle i'r llall
- cyfathrebu
- delio a gohebiaeth
- gwneud pethau bob dydd.
Gallwch ofyn am asesiad o'ch anghenion synhwyraidd trwy un ai wasanaethau colli clyw neu wasanaethau dallineb Gwasanaethau Cymdeithasol Powys.
Eraill sy'n gallu helpu
Cymhorthion ffôn: Mae gan BT nifer o wahanol gymhorthion. Gallan nhw gynnig offer megis cloch estyn am ddim i gwsmeriaid sy'n drwm eu clyw neu'n fyddar. Ffoniwch 0800 800 150 am fanylion.
Larymau tân sy'n fflachio: Mae'r gwasanaeth tân yn gallu gosod y rhain am ddim. Ffoniwch 0800 3899279
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau