Anheddau Menter Wledig ar gyfer Garddwriaeth Graddfa Fach
Paratowyd y canllawiau cynllunio hyn (dolen pdf?) yn benodol i gefnogi a chynorthwyo mentrau garddwriaethol ar raddfa fach i baratoi cais cynllunio ar gyfer Annedd Menter Wledig (parhaol neu dros dro).
Mae'n darparu canllawiau manwl ar gyfer paratoi Arfarniad Anheddau Menter Wledig y mae'n rhaid ei gyflwyno gyda chais cynllunio ac sydd wedi'i ddatblygu i adlewyrchu amgylchiadau unigryw a phenodol y mentrau hyn.
Dyliai canllawiau'n ategol gael eu darllen ochr yn ochr â Nodyn Cyngor Technegol 6: Nodyn cyngor technegol (TAN) 6: cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy | LLYW. CYMRU
Mae enghraifft o Daflen Cofnod Amser (ar gyfer cofnodi oriau gwaith) ar gael i'w lawrlwytho yma Cofnod oriau gweithio fferm fechan 12 mis (ZIP, 122 KB)
Gellir cael enghreifftiau o Astudiaeth Achos Cynllunio ar gais gan ldp@powys.gov.uk
Wrth baratoi'r canllawiau cynllunio hyn, mae'r Cyngor yn cydnabod cyfraniadau'r sefydliadau canlynol:
- Terra Perma Geo
- Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
- Ein Bwyd 1200
- Cynghrair Gweithwyr Tir
- Lantra
- Cultivate
- Partneriaeth Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Powys (a gynhelir gan Cultivate)
- Consortiwm Gwlada gynhelir gan Sustainable Farming Consultancy
Dylai ymgeiswyr sy'n ystyried Annedd Menter Wledig ar fathau eraill o fenter gyfeirio at Anheddau menter gwledig: canllawiau | LLYW. CYMRU