Toglo gwelededd dewislen symudol

Penodi Cadeirydd newydd ar gyfer Cyngor Sir Powys

Image of Emma Palmer, Chief Executive; Cllr Beverley Baynham, outgoing Chair; Cllr William Powell, Vice Chair; Cllr Jonathan Wilkinson, the new Chair of Powys County Council; and Cllr Geoff Morgan, Assistant Vice Chair.

17 Mai 2024

Mae cynghorydd sir o Meifod wedi ei benodi yn Gadeirydd newydd Cyngor Sir Powys.

Cafodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, sy'n cynrychioli wardiau Llangyniew a Meifod, ei ethol yn gadeirydd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor ddydd Iau, 16 Mai.  Bydd yn olynu'r Cynghorydd Beverley Baynham, aelod lleol dros Lanandras.

Etholwyd y Cynghorydd Wilkinson yn gynghorydd sir yn 2017.

Etholwyd y Cynghorydd William Powell fel Is-gadeirydd y cyngor yn yr un cyfarfod, mae'r Cynghorydd Wilkinson yn aelod lleol dros Talgarth, ac etholwyd y Cynghorydd Geoff Morgan, aelod lleol Dyffryn Ieithon, yn Is-gadeirydd Cynorthwyol.