Cymorth i rai sydd wedi colli eu golwg
Byddwn yn ymweld â chi i gwblhau asesiad o'ch anghenion golwg sy'n cynnwys sgiliau symudedd, cyfathrebu a byw bob dydd. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth, cyngor a darnau bach o offer wedi'u teilwra i'ch anghenion penodol sy'n eich galluogi i gadw'n ddiogel ac yn annibynnol.
Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ddysgu sgiliau newydd fel tywysu, braille a defnyddio ffon hir.
Os oes gennych Nam ar y ddau synnwyr (gyda'ch golwg a'ch clyw wedi'i gyfuno) cysylltwch â'n Tîm Nam ar y Clyw, ar y rhif isod i gael gwybod pa help a chefnogaeth maen nhw'n eu darparu.
Rydym ni'n gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi ac yn fan cychwyn i ddarganfod rhagor am sut i fanteisio i'r eithaf ar eich golwg.
Beth mae asesiad yn ei gynnwys?
Bydd yr asesiad yn dod o hyd i'r problemau y mae'r nam ar eich golwg yn eu hachosi o ddydd i ddydd. Bydd y Swyddog Adsefydlu yn gweithio gyda chi i lunio cynllun adsefydlu a fydd yn rhestru'r pethau sydd eu hangen arnoch i fyw'n annibynnol.
Gallai hyn amrywio o
- Gosod marciau amlwg ar eich ffwrn fel bod deialau'r ffwrn yn haws eu defnyddio
- Addysgu eich gofalwr i'ch arwain chi'n ofalus
- Neu gefnogaeth sy'n fwy cymhleth, er enghraifft addysgu symudedd annibynnol yn yr awyr agored drwy ddefnyddio ffon
Byddwch yn gallu gweithio trwy'ch cynllun adsefydlu yn ôl eich cyflymder eich hun.
Gwneud atgyfeiriad Gwneud atgyfeiriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal
Visual list panel info
Gweld rhagor (Ewch i Visual list panel info)Cymorth i Oedolion â chysylltiadau Coll Golwg
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau
