Help gyda nam ar y golwg
Os oes gennych chi nam ar eich golwg sy'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, mae help ar gael. Rydym yn helpu plant ac oedolion sydd â nam ar y golwg gyda gwybodaeth a chymorth i'w helpu i ymdopi'n annibynnol, yn eu cartrefi eu hunain ac o gwmpas y lle.
Pa fath o help sydd ar gael?
Rydym yn cyflogi Swyddogion Adsefydlu gyda chymwysterau llawn i asesu eich anghenion.
Gallwn hefyd eich helpu i ddysgu sgiliau newydd a darparu gwybodaeth i ofalwyr.
P'un a ydych yn chwilio am wybodaeth yn unig, neu gyngor a chymorth mwy manwl, mae croeso i chi gysylltu â ni. Os hoffech chi gael eich asesu,gallwn drefnu hyn, yn eich cartref eich hun fel arfer.
Beth mae asesiad yn ei gynnwys?
Bydd yr asesiad yn dod o hyd i'r problemau y mae'r nam ar eich golwg yn eu hachosi o ddydd i ddydd. Bydd y Swyddog Adsefydlu yn gweithio gyda chi i lunio cynllun adsefydlu a fydd yn rhestru'r pethau sydd eu hangen arnoch i fyw'n annibynnol. Gallai hynny amrywio o bethau syml fel gosod botymau cyffyrddadwy ar eich ffwrn a dysgu eich gofalwr i'ch tywys yn ddiogel, a chymorth mwy cymhleth, fel eich dysgu sut i symud yn annibynnol y tu allan gan ddefnyddio gwialen.
Byddwch yn gallu gweithio trwy'ch cynllun adsefydlu yn ôl eich cyflymder eich hun.
Nam ar y ddau synnwyr
|
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau