Toglo gwelededd dewislen symudol

Sefydliadau'r celfyddydau i rannu grant o £675,000 gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Image of a female performing, sculpting and painting

17 Mai 2024

Image of a female performing, sculpting and painting
Bydd deg sefydliad yn elwa o raglen ariannu grant gwerth £675,000 a grewyd i gefnogi'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, meddai'r cyngor sir.

Yn gynharach eleni, llwyddodd Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Powys i sicrhau £675,000 o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) gyda'r rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi gwytnwch, cynaliadwyedd a thrawsnewid o fewn y diwydiannau celfyddydol a chreadigol yn y sir.

Bydd y cyllid yn dod â'r sefydliadau ynghyd mewn rhwydwaith dysgu cydweithredol gyda chyfoedion am weddill 2024 fel y gallant gefnogi ei gilydd i gyflawni eu prosiectau.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'r sector diwylliannol ym Mhowys yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu creadigrwydd, addysg, lles a thwristiaeth ddiwylliannol yn ogystal â chryfhau bywyd economaidd cymunedau'r sir.

"Rydym yn cydnabod yr anawsterau sy'n cael eu hachosi i'r celfyddydau gan y gostyngiad mewn cyllid cyhoeddus ac rydym wrthi'n chwilio am ffyrdd i barhau i gefnogi'r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn.  Bydd yr arian rydym wedi'i sicrhau'n llwyddiannus o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ein galluogi i gefnogi'r sector celfyddydau ym Mhowys.

"Roedd y broses yn un cystadleuol iawn gyda galw enfawr am yr arian. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynghylch pa sefydliadau y byddwn yn eu cefnogi.

"Hoffwn longyfarch y rhai a lwyddodd gyda'u ceisiadau ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw wrth i ni geisio datblygu sector diwylliannol gwydn a chynaliadwy yma ym Mhowys."

Y sefydliadau llwyddiannus oedd:

  • Carad (£66,071):  Mae Carad yn darparu hwb creadigol sy'n meithrin ac arddangos treftadaeth ddiwylliannol a chymdeithasol cyfoethog yr ardal - gan hyrwyddo cyfranogiad mewn gweithgareddau celfyddydol.   Bydd y grant yn creu'r capasiti i weithredu cynllun busnes newydd, darparu hyfforddiant a chymorth ar gyfer gwirfoddolwyr, datblygu partneriaethau newydd a datblygu rhaglen gelfyddydol wedi'i ail-ffocysu.
  • Gregynog (£52,153): Mae Gregynog yn garreg filltir bwysig yn hanes hanesyddol ac artistig Powys, bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu rhaglen digwyddiadau partneriaeth, a chreu model masnachol mwy gwydn i'r sefydliad wrth symud ymlaen.
  • Impelo (£106,842) - Sefydliad dawns yw Impelo wedi'i lleoli yn Llandrindod a'i nod yw 'Cysylltu ac ysbrydoli unigolion, cymunedau a sefydliadau trwy lawenydd dawnsio - gan fagu a hybu chwilfrydedd, uchelgais a dysg gydol oes'.  Defnyddir y cyllid i gefnogi ail-ddiffinio, ail-fodelu a phrofi cynllun busnes a gweithrediadau Impelo, adeiladu a graddio incwm masnachol ac elusennol newydd arall i sicrhau cynaliadwyedd ariannol a chadw gweithlu dawns hanfodol. 
  • The Lost Arc (£68,000): Canolfan gelf gymunedol a cherddoriaeth fyw wedi'i lleoli yn yr Old Drill Halla, Rhaeadr Gwy. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ail-lunio, ailffocysu ac adfywio drwy ddod ag arbenigedd arlwyo masnachol i mewn, datblygu cyfathrebu ac ymgysylltu, llywodraethu gan fwrdd a rheoli gwirfoddolwyr.
  • Celf Canol Cymru (£56,000): Mae Celf Canol Cymru yn sefydliad sydd wedi'i leoli yng Nghaersws sy'n grymuso artistiaid a sefydliadau drwy ddarparu cymorth, hyfforddiant, arddangosfeydd a chyfleoedd mentergarwch  Bydd canolfan y celfyddydau yn defnyddio'r arian i gyflawni gweledigaeth strategol newydd ac i roi'r adnodd i'r tîm ddatblygu model rheoli mwy cynaliadwy ar gyfer y sefydliad wrth symud ymlaen.
  • Opera Canolbarth Cymru (£75,906): Wedi'i sefydlu yn 1989, mae'n cynhyrchu opera ledled canolbarth Cymru, ac mae'n adnabyddus am ei llwyfannu opera, yn enwedig mewn cydweithrediad â chymunedau gwledig. Mae'r sefydliad yn cefnogi datblygu gyrfaoedd artistiaid ifanc a bydd y cyllid hwn yn galluogi Opera Canolbarth Cymru i ailddiffinio ei genhadaeth, ei fusnes a'i fodd o ariannu yng ngoleuni'r ffaith bod cyllid cyhoeddus yn cael ei dorri.
  • Peak Cymru (£78,401): Mae Peak Cymru, sydd wedi'i leoli yn Y Fenni a Chrughywel yn sefydliad sy'n cydweithio â phobl ifanc, artistiaid a chymunedau sy'n pontio'r cenedlaethau.  Bydd y grant yn ariannu rôl economïau amgen newydd i archwilio gwahanol incymau, a phersonau ifanc sy'n dod i'r amlwg o dan 30 oed.
  • Gŵyl Llanandras (£51,400): Mae Gŵyl Llanandras wedi bod yn rhedeg ers dros 40 mlynedd yn cyflwyno arloesedd cerddorol, comisiynu gwaith newydd a chefnogi cyfansoddwyr cyfredol ac artistiaid ifanc talentog. Bydd y grant yn rhoi arian i'r ŵyl gomisiynu ymchwil i ddeall a chael gwared ar rwystrau i bresenoldeb, datblygu strategaeth codi arian ac adnewyddu gwefan yr ŵyl.
  • Y Neuadd Les, Ystradgynlais (£75,129): Mae'r Neuadd Les yn elusen gelfyddydol a chymunedol fywiog sydd wedi'i lleoli yng nghymoedd Tawe Uchaf.  Y bwriad yw defnyddio'r cyllid i greu cynllun rheoli olyniaeth, penodi Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol newydd a threialu Gŵyl Gymunedol y Meysydd Glo.
  • Canolfan Gelfyddydol y Wyeside (£45,098): Mae'r Wyeside yn ganolfan gelfyddydol sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn Llanfair-ym-Muallt. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i gefnogi trawsnewid y model busnes presennol i adeiladu gwytnwch sefydliadol trwy godi arian a datblygu marchnata a chynulleidfaoedd ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â rheolwr y prosiect, Alice Briggs yn arts@powys.gov.uk

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu