Coginio'n Cyfrif
22 Mai 2024
Cyllidir y cwrs 'Coginio'n Cyfrif' trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac mae'n cynnig cyfle i drigolion Powys wella eu sgiliau rhifedd a choginio, trwy weithgareddau ymarferol a thrafodaethau grŵp.
Bydd y cwrs ar gael ledled y sir, a bydd yn cymryd chwe wythnos i'w gwblhau; bydd pob sesiwn yn ddwy awr o hyd. Mae'n rhaid i gyfranogwyr fod ar gael i gwblhau'r chwe wythnos, ac mae'n rhaid bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
I sicrhau y gall pawb gydweithio, cyfyngir nifer y bobl yn y grwpiau i uchafswm o 6-8, yn dibynnu ar y lleoliad, felly mae'n hanfodol archebu lle.
Bydd y sawl sy'n mynd ar y cwrs yn derbyn llyfr ryseitiau am ddim, ynghyd â phecyn nwyddau, sy'n cynnwys offer cegin gwerth tua £20.
Dywed y Cyng. Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Mae'r cwrs hwn, sydd am ddim, yn rhoi cyfle ichi ddatblygu eich sgiliau rhifedd a choginio fel rhan o grŵp bach, a thrwy sicrhau fod y cwrs ar gael mewn lleoliadau ar draws y sir, mae ar agor i bawb fanteisio ar y cynnig hwn.
"Mae'n wych derbyn y cyllid i ddod â chyrsiau fel hyn i Bowys, a hoffwn annog unrhyw drigolion sydd â diddordeb i gofrestru ar ei gyfer os yn bosibl."
Mae'r cyrsiau ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Chwarae Maesyfed, Llandrindod - 7 Mehefin, 12pm
- The Muse, Aberhonddu - 10 Mehefin, 12pm
- Canolfan Integredig i Deuluoedd Y Drenewydd - 13 Mehefin, 1pm
- Neuadd Cwmdauddwr, Rhaeadr Gwy - 5 Awst, 2pm - WEDI EI GANSLO
- Eglwys y Santes Fair, Y Trallwng - 9 Awst, 12pm
- Neuadd y Strand, Llanfair ym Muallt - 3 Medi, 12pm
- Clwb Rygbi Llanidloes - 27 Medi, 12pm
- Ysgol Golwg Y Cwm, Ystradgynlais - 1 Hydref, 3pm
- Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd - 3 Hydref, 3pm
- Tafarn y Cross Keys, Llanfyllin - 11 Tachwedd, 12pm
I archebu lle, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/16330/Coginion-Cyfrif
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Diogelu Iechyd ar:
- Ebost - healthprotection@powys.gov.uk
- Ffôn - 01597 827306