Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn dechrau
27 Mai 2024
Heddiw, dydd Llun 27 Mai, yw diwrnod cyntaf yr ŵyl ieuenctid wythnos o hyd ac mae Cyngor Sir Powys yn falch iawn o gael presenoldeb amlwg ar Faes yr Eisteddfod.
Rydym yn defnyddio'r wythnos hon fel cyfle i arddangos Powys i'r rhai sy'n mynychu - o flasu cynnyrch, twristiaeth a diwylliant lleol i hyrwyddo'r Gymraeg a gweithgareddau yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd recriwtio yn y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Croeso cynnes iawn i Feifod a Phowys. Mae'n anrhydedd fod yn gartref i Eisteddfod yr Urdd eleni ym Meifod ac i groesawu plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn yr ŵyl unigryw ac arbennig hon.
"Mae Cyngor Sir Powys yn hynod falch o gefnogi'r digwyddiad eleni. Rwy'n edrych ymlaen at yr wythnos sydd i ddod ac yn annog plant, pobl ifanc, teuluoedd a ffrindiau o bob rhan o Bowys i fanteisio ar y cyfle i ymweld â'r Eisteddfod ger Meifod yr wythnos hon.
"Rwy'n falch iawn bod y ddarpariaeth o fynediad am ddim i deuluoedd ar incwm isel ar gael, gan y bydd yn galluogi pob teulu a phlentyn ym Mhowys i gael y cyfle i brofi Eisteddfod yr Urdd."