Paratoi at groesawu rhai o seiclwyr benywaidd gorau'r byd
3 Mehefin 2024
Mae disgwyl i'r bencampwraig Lotte Kopecky fod yn eu plith gyda'i thîm SD-Worx - Protime, sef un o bedwar tîm Menywod UCI Tour y Byd sy'n cystadlu.
Hefyd, bydd pum tîm UCI Cyfandirol i Fenywod a chwech o dimau Cyfandirol Prydeinig ymhlith y cystadleuwyr, ynghyd â sêr tîm Prydain Fawr gan gynnwys Lizzie Deignan (cyn bencampwraig y byd, ac enillydd y Tour Menywod ddwy waith), Elinor Barker (enillydd medal aur Olympaidd), Elynor Bäckstedt, Anna Henderson, Millie Couzens a Flora Perkins.
Bydd cam un yn dechrau ar Stryd Lydan am 11.15am ac yn dilyn taith 142.5km i Landudno. Cyn gadael Powys, byddant yn pasio drwy Aberriw, Castell Caereinion, Llanfair Caereinion, Dolanog, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Pen-y-bont-fawr a Llangynog.
Bydd ffyrdd yn cau yn eu tro ar hyd llwybr y ras, i ddiogelu'r seiclwyr, gan bara tua 15 i 20 munud fel arfer o gwmpas amcangyfrif yr amser cyrraedd gyda cherbydau hebrwng yr heddlu yn dynodi hynny.
Gofynnir i fodurwyr beidio â pharcio ar hyd llwybr y ras ar y dydd, ac mae'n bosibl y caiff cerbydau eu symud os fyddant yn peri rhwystr.
Caiff parcio hefyd ei wahardd ar Stryd Lydan a'r Stryd Fawr yn Y Trallwng o 6pm gyda'r nos Ddydd Mercher 5 Mehefin, fel bod trefnwyr yr ras, British Cycling Events yn gallu paratoi popeth sydd ei angen i ddechrau digwyddiad rhyngwladol.
Dywedodd Elynor Bäckstedt, un o'r ddwy Gymraes sy'n seiclo gyda thîm Prydain Fawr: "Fe fydd yn hyfryd iawn cael dwy ohonom o Gymru yn y tîm (mae'n cynnwys Elinor Barker). Byddwn yn caru cael y gefnogaeth ychwanegol oddi wrth dorf o Gymry, ac rwy'n credu y cawn ni'r gefnogaeth honno i fod yn onest.
"Mae'r ffans Cymraeg, fe'u gwelwch yn y Tour i G (Geraint Thomas) ac Owain (Doull), maen nhw'n gryf eu presenoldeb ac mae hynny mor arbennig. I genedl mor fach â hon mae'n rhoi gwir gefnogaeth i'w hathletwyr ac yn rhoi gymaint o gefnogaeth iddyn nhw, ble bynnag y maen nhw yn y byd.
"Gallwn fod mewn ras yng nghanol unlle, a bydd rhywun yn dod ataf gyda baner Cymru gan ddweud: 'O dwi'n byw i lawr y ffordd. Mae mor braf eich gweld chi!' Dydych chi ddim yn disgwyl hynna, ac rwy'n meddwl fod hynny'n rhywbeth mor arbennig ynghylch y lle y down ni ohono, mae pobl yn cefnogi ei gilydd."
Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Seiclo Prydain, Stephen Park: "Rydym wrth ein bodd o allu cadarnhau Tîm Seiclo Prydain Fawr mor gryf ar gyfer Tour Prydain Cyntaf Banc Lloyds i Fenywod.
"Gwyddom y bydd y tîm yn llyfu eu gweflau wth gael y cyfle prin i rasio gartref, ac i'r rhai ymhlith y sgwad sy'n gobeithio mynd i Baris, bydd y digwyddiad yn chwarae rôl hanfodol ym mharatoadau terfynol y Gemau. Ry'n ni'n gwybod y byddan nhw'n ychwanegu gwir gryfder a dawn at y ras ac yn disgwyl y bydd y ffans wedi dod yn llu i ddangos eu cefnogaeth."
Mae Cyngor Sir Powys yn bartner Cam un. Dywedodd y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Thwf, Diane Reynolds: "Rydym wrth ein boddau fod Tour Prydain Lloyds Banc i Fenwyod yn mynd i ddechrau yma ym Mhowys o'r Trallwng.
"Mae'n darparu cyfle grêt i wylio rhai o sêr chwaraeon gorau'r byd wrthi, ac i ni arddangos rhai o'r llwybrau seiclo grêt sydd gennym ym Mhowys a phrydferthwch ein hamgylchedd naturiol."
Gall seiclwyr benywaidd amatur hefyd gymryd rhan ar y dydd drwy ymuno â thaith tywys Breeze am ddim ar hyd dechrau'r llwybr y bydd y seiclwyr proffesiynol yn ei ddilyn.
Rhaid i gyfranogwyr fod dros 16 oed ac wedi cofrestru ar gynllun Seiclo Prydeinig Let's Ride.
Mae Breeze yn cynnig teithiau tywys ar feic am ddim a chynhwysol i fenywod o bob gallu ledled y DU.
Llwybr Ras Tour Prydain Lloyds Banc i Fenwyod 2024
Cam 1 - Dydd Iau 6 Mehefin 2024: Y Trallwng i Landudno
Cam 2 - Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam
Cam 3 - Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington
Cam 4 - Dydd Sul 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf: Y Ganolfan Seiclo Genedlaethol i Leigh
LLUN: Elynor Bäckstedt, sy'n gobeithio cael cefnogaeth ychwanegol oddi wrth y dorf ym Mhowys fel Cymraes yn y ras. Llun: SWpix