Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd angen ID Ffotograffig er mwyn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol

Image of purple post it note with the text saying: Remember to 1- Register to vote 2- Check my photo ID 3- Vote at a polling station!

4 Mehefin 2024

Image of purple post it note with the text saying: Remember to 1- Register to vote 2- Check my photo ID 3- Vote at a polling station!
Bydd angen i breswylwyr ym Mhowys ddangos tystiolaeth ID ffotograffig er mwyn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf, yn ôl y cyngor sir.

Caiff preswylwyr eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio drwy wirio bod ganddynt ffurf adnabod derbyniol. Ymhlith y ffurfiau adnabod derbyniol mae:

  • Pasbort a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Tramor Brydeinig, talaith Ardal Economaidd Ewropeaidd neu un o wledydd y Gymanwlad 
  • Trwydded yrru a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Tramor Brydeinig, talaith Ardal Economaidd Ewropeaidd (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
  • Bathodyn Glas
  • Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i'r sawl sydd dros 60 oed
  • Cerdyn Teithio Rhatach Cymru ar gyfer Person Anabl 

Gall pleidleiswyr ddefnyddio ID nad yw'n gyfredol os oes modd eu hadnabod o hyd o'r ffotograff.

Gall unrhyw un heb un o'r ffurfiau adnabod derbyniol wneud cais am ID ar-lein am ddim ar www.voter-authority-certificate.service.gov.uk/ neu drwy gwblhau ffurflen bapur.

Mae rhestr lawn o bob ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd a manylion am sut i wneud cais am yr ID am ddim, yn www.electoralcommission.org.uk/voterID.

Dywedodd Emma Palmer, Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Powys: "Gyda bod yr Etholiad Cyffredinol yn digwydd ar 4 Gorffennaf 2024, y mae'n bwysig fod y rheini sydd am bleidleisio yn gwneud yn siŵr fod ffurf ID derbyniol ganddynt.

"Mae modd i breswylwyr heb unrhyw ffurf ID derbyniol wneud cais am ID am ddim, un ai ar-lein neu drwy gwblhau ffurflen gais bapur a'i hanfon at ein tîm gwasanaethau etholiadol drwy e-bostio electoral.services@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826202."

Rhaid i unrhyw un sydd am ddweud ei ddweud yn yr Etholiad Cyffredinol fod wedi cofrestru i bleidleisio hefyd. Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i gofrestru ar-lein yma www.gov.uk/register-to-vote. Dylai pleidleiswyr sy'n dymuno gwneud cais i'w cyngor am ID am ddim wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gyntaf.

Cyflwynwyd y gofyniad i ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio gan Ddeddf Senedd Llywodraeth DU a daeth i rym am y tro cyntaf ym mis Mai 2023.