Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau Cyffredin Llwybrau ac amserlenni bysiau ysgol

C) Ni allaf weld opsiwn i arbed y llwybr?

A) Mae'n rhaid i chi fod â chyfrif Fy Mhowys a mewngofnodi i'r cyfrif hwnnw i allu arbed llwybrau. Gallwch greu cyfrif yn gyflym ac yn hawdd ar-lein, os oes angen: https://cy.powys.gov.uk/cofrestru

 

C) Nid oedd llwybr fy mhlentyn yn arbed beth allaf ei wneud?

A) Dewiswch y llwybr eto, cliciwch 'Ychwanegu at fy rhestr' ac yna gwnewch yn siŵr eich bod yn sgrolio i lawr a chlicio 'Arbed Llwybrau a Dewisiadau Rhybuddion'.

 

Q) Pam na allaf arbed yr holl lwybrau yr wyf am eu dilyn?

A) Dim ond hyd at bum llwybr y gallwch ei arbed.

 

C) Beth yw'r 'cod cerdyn'?

A) Dyma'r cod llaw a ddangosir ar y blaen y tocyn bws, nodwch hyd at y pum rhif cyntaf. Sylwch fod y codau llaw ar gyfer gwahanol fyfyrwyr a llwybrau yn wahanol o ran hyd - gall rhai fod mor fyr â thri rhif (bydd hyn yn gweithio'n iawn), efallai y bydd gan rai saith rhif (dim ond y pump cyntaf fydd eu hangen arnoch).

 

C) Rwyf wedi nodi'r cod, ond nid yw'n gweithio.

A) Gwiriwch eich bod wedi nodi rhifau'r cod llaw yn gywir. Os nad yw'n gweithio o hyd, defnyddiwch y ffurflen adborth ar frig y dudalen i roi gwybod i ni.

 

C) Pam na allaf weld y bws yn symud ar hyd y llwybr?

A) Gwiriwch eich bod yn edrych ar y llwybr yn ystod yr amseroedd a ddangosir ar yr amserlen h.y., pan fydd y myfyrwyr yn teithio.

 

C) Rwyf wedi nodi'r cod llaw o'r tocyn bws, ond nid yw'n dangos y llwybrau cywir ar y rhestr.

A) Gwiriwch eich bod wedi nodi pum rhif cyntaf y cod yn gywir. Os nad yw'n dangos y llwybr cywir o hyd:

  • gwiriwch rif / rifau'r llwybr a ddangosir ar y tocyn - gall hyn fod yn wahanol i'r bws y mae'r myfyriwr yn teithio arno. Rhowch wybod am hyn drwy'r ffurflen adborth - bydd angen enw a dyddiad geni'r myfyriwr arnom.
  • Os ydych yn dal i gael problemau, rhowch wybod am y gwall gan ddefnyddio'r ffurflen adborth - bydd angen enw a dyddiad geni'r myfyriwr arnom.