A oes gennych gwestiwn am wasanaethau'r cyngor?
6 Mehefin 2024
Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â'r sir a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor, ac os derbynnir y cwestiynau gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, fe fyddant yn cael eu hychwanegu at yr agenda yn y drefn y derbynnir hwy.
Mae'r cyngor yn darparu slot 20 munud ar ddechrau pob cyfarfod llawn o'r cyngor ar gyfer cwestiynau'r cyhoedd a dim ond pedwar cwestiwn dilys gaiff eu hystyried yn y drefn y cawsant eu derbyn.
Os bydd y cyngor yn derbyn mwy na phedwar cwestiwn, bydd cwestiynau dilys eraill yn cael eu gohirio i gyfarfod llawn y cyngor ym mis Hydref.
I gyflwyno cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf, anfonwch hwy dros e-bost at publicquestions@powys.gov.uk erbyn 5pm ar ddydd Mercher 26 Mehefin.
Gellir gweld y cyfarfod yn Neuadd y Sir, Llandrindod, sy'n cael ei fynychu gan rai cynghorwyr wyneb yn wyneb a gan eraill dros Zoom, trwy wefan y cyngor.
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor ar gael yma: https://powysw.moderngov.co.uk/ecSDDisplay.aspx?NAME=SD672&ID=672&RPID=9845814