Trafodaethau a Chyfarfodydd Strategaeth

Mae cyfarfodydd a thrafodaethau strategaeth yn helpu Gwasanaethau Plant i adeiladu darlun mor llawn â phosibl o'r hyn sydd wedi digwydd.
Bydd hyn yn digwydd rhwng gweithiwr cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
Nod y cyfarfod yw penderfynu a ddylid dechrau ymholiadau amddiffyn plentyn ai peidio. Bydd y cyfarfod hefyd yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau ar unwaith i gadw'r plentyn yn ddiogel.
Caiff rhieni wahoddiad i drafodaeth neu gyfarfod strategaeth. Fodd bynnag, caiff unrhyw wybodaeth neu benderfyniadau a gytunwyd yn y cyfarfod ei rhannu ag aelodau priodol o'r teulu pan fo'n briodol gwneud hynny.