Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y CyngoraDyfarniadau (budd-daliadau) ar gau ddydd Gwener 14 Mawrth oherwydd diweddariad i'r system.

Beth sy'n cael ei gynnwys fel arfer mewn Ymholiad Amddiffyn Plant?

What does it involve

Gall Ymholiad Amddiffyn Plant Adran 47 gael ei arwain gan Wasanaethau Plant neu gan yr heddlu neu gan y ddau yn cyd-weithio.

Yn ystod archwiliad bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cwrdd â'r rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'r teulu, er enghraifft athro'r plentyn neu Weithiwr Iechyd Proffesiynol.

Bydd Gwasanaethau Plant yn anelu at wneud y canlynol:

  • Casglu gwybodaeth am y plentyn / plant a'u teulu.
  • Deall sut olwg sydd ar "ddiwrnod ym mywyd" y plentyn a'r teulu.
  • Penderfynu a ydyn nhw'n meddwl bod y plentyn yn dioddef neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol.
  • Penderfynu a oes angen unrhyw weithredu i amddiffyn y plentyn neu i wella ei lesiant.

Bydd Gwasanaethau Plant bob amser yn ceisio gweithio gyda phawb sydd â Chyfrifoldeb Rhiant a chael cytundeb oddi wrthynt cyn dechrau casglu gwybodaeth. Fodd bynnag, yn unol â gwybodaeth Deddfwriaeth Amddiffyn Plant, gellir parhau i gasglu gwybodaeth hyd yn oed os yw'r rhiant â Chyfrifoldeb Rhiant heb roi eu caniatâd.

Mae llais y plentyn yn ganolog i ddeall niwed potensial y gallai'r plentyn fod yn ei brofi. Felly, bydd y gweithiwr cymdeithasol sy'n arwain yr asesiad fel arfer yn gweld y plentyn/ plant ar ei ben ei hun, ond byddant fel arfer yn gofyn am ganiatâd y rhieni cyn gwneud hyn. Pan fydd plant yn cael eu gweld ar eu pen eu hun heb fod y rhieni yn gwybod, bydd rhieni bob amser yn derbyn esboniad ynghylch pam oedd yn rhaid i hyn ddigwydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu