Beth sy'n cael ei gynnwys fel arfer mewn Ymholiad Amddiffyn Plant?

Gall Ymholiad Amddiffyn Plant Adran 47 gael ei arwain gan Wasanaethau Plant neu gan yr heddlu neu gan y ddau yn cyd-weithio.
Yn ystod archwiliad bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cwrdd â'r rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'r teulu, er enghraifft athro'r plentyn neu Weithiwr Iechyd Proffesiynol.
Bydd Gwasanaethau Plant yn anelu at wneud y canlynol:
- Casglu gwybodaeth am y plentyn / plant a'u teulu.
- Deall sut olwg sydd ar "ddiwrnod ym mywyd" y plentyn a'r teulu.
- Penderfynu a ydyn nhw'n meddwl bod y plentyn yn dioddef neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol.
- Penderfynu a oes angen unrhyw weithredu i amddiffyn y plentyn neu i wella ei lesiant.
Bydd Gwasanaethau Plant bob amser yn ceisio gweithio gyda phawb sydd â Chyfrifoldeb Rhiant a chael cytundeb oddi wrthynt cyn dechrau casglu gwybodaeth. Fodd bynnag, yn unol â gwybodaeth Deddfwriaeth Amddiffyn Plant, gellir parhau i gasglu gwybodaeth hyd yn oed os yw'r rhiant â Chyfrifoldeb Rhiant heb roi eu caniatâd.
Mae llais y plentyn yn ganolog i ddeall niwed potensial y gallai'r plentyn fod yn ei brofi. Felly, bydd y gweithiwr cymdeithasol sy'n arwain yr asesiad fel arfer yn gweld y plentyn/ plant ar ei ben ei hun, ond byddant fel arfer yn gofyn am ganiatâd y rhieni cyn gwneud hyn. Pan fydd plant yn cael eu gweld ar eu pen eu hun heb fod y rhieni yn gwybod, bydd rhieni bob amser yn derbyn esboniad ynghylch pam oedd yn rhaid i hyn ddigwydd.