Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyn-ddisgybl o Bowys yn "ennill y dwbl' yn Eisteddfod yr Urdd

Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, Tegwen Bruce-Deans, Eisteddfod yr Urdd 2024 Main Prose Writer

7 Mehefin 2024

Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, Tegwen Bruce-Deans, Eisteddfod yr Urdd 2024 Main Prose Writer
Yn dilyn eu llwyddiant y llynedd, mae cyn-ddisgybl o Bowys wedi ennill gwobr fawreddog arall yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, meddai'r cyngor sir.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd mai Tegwen Bruce-Deans o Landrindod oedd y 'Prif Lenor' neu'r awdur rhyddiaith gorau, yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, gan ennill y Goron hardd a gynlluniwyd gan Mari Eluned.

Ganed Tegwen yn Llundain i deulu Saesneg eu hiaith, gan symud i Landrindod pan oedd hi'n ddwy oed. Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Trefonnen ac Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt (a elwir bellach yn Ysgol Calon Cymru) a graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi bellach yn gweithio i BBC Radio Cymru.

Ar ôl ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Sir Gaerfyrddin, mae'n golygu mai hi yw'r ail berson erioed i gyflawni'r "fuddugoliaeth ddwbl".

Cystadlodd Tegwen ochr yn ochr â 18 arall a gafodd y dasg o gyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema 'Terfynau'.

Meddai Emma Palmer, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys: "Llongyfarchiadau i Tegwen ar ei llwyddiant anhygoel. I ddod o deulu Saesneg eu hiaith, ac ennill, nid yn unig unwaith, ond i hawlio'r 'dwbl' a bod hynny ond wedi digwydd unwaith erioed o'r blaen, yn gamp a hanner.

"Y Goron yw un o'r gwobrau mwyaf mawreddog yn Eisteddfod yr Urdd, ac mae'n wych cael cyn-ddisgybl o Bowys yn mynd â hi adref, yn enwedig gyda'r sir yn cynnal yr ŵyl eleni. Da iawn!"

 

Llun: Tegwen Bruce-Deans, 'Prif Lenor' neu awdur rhyddiaith gorau Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Credyd Llun: Urdd Gobaith Cymru