Toglo gwelededd dewislen symudol

Ei gwneud yn haws tyfu llysiau a ffrwythau yn fasnachol ym Mhowys

A box of vegetables and fruit

11 Mehefin 2024

A box of vegetables and fruit
Mae canllawiau cynllunio newydd wedi'u cyflwyno ym Mhowys gyda'r nod o'i gwneud hi'n haws sefydlu gerddi marchnad neu dyddynnod yn y sir.

Mae'r cyngor yn cwmpasu'r angen i gael cartref gerllaw wrth redeg busnes garddwriaethol ar raddfa fach yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (pob rhan o'r sir y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Dylai hyn ei gwneud yn haws cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Powys ar gyfer tŷ yng nghefn gwlad pan fydd tyfwr ei angen i fod yn agos at eu cnydau.

Anheddau menter wledig ar gyfer garddwriaeth ar raddfa fach - canllawiau cynllunio

"Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod garddwriaeth ar raddfa fach yn gallu bod yn gynhyrchiol iawn ac yn broffidiol," meddai Matt Perry, Prif Swyddog Cyngor Sir Powys - Lle, "ond er gwaethaf hyn dydy cyfran fawr o'r llysiau a'r ffrwythau rydyn ni'n eu bwyta bob dydd ddim yn cael eu tyfu ym Mhowys na hyd yn oed yn y DU!

"Mae potensial mawr i lawer mwy o'r bwyd rydyn ni'n ei brynu gael ei dyfu'n agosach at adref, gan roi hwb i economi Powys, darparu cyflenwad mwy rhagweladwy o gynnyrch ffres a maethlon a lleihau ein hôl troed carbon wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."

Dengys Mynegai Diogelwch Bwyd y DU a gomisiynwyd yn ddiweddar gan DEFRA (Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig) mai dim ond 55% o'r llysiau a 17 y cant o'r ffrwythau rydyn ni'n eu bwyta sy'n cael eu tyfu yn y DU.

Efallai y bydd tyfwyr llysiau a ffrwythau masnachol ym Mhowys yn gallu cael cymorth ariannol ar gyfer eu cynlluniau buddsoddi drwy Gynllun Sbarduno Busnes Bwyd Llywodraeth Cymru.