Toglo gwelededd dewislen symudol

Annog trigolion Powys i ailgylchu deunyddiau pecynnu metel

Image of recyclable metal products

17 Mehefin 2024

Image of recyclable metal products
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno ymgyrch newydd i hyrwyddo ailgylchu deunyddiau pecynnu metel. Mewn ymdrech i wella cyfraddau ailgylchu ochr y ffordd, mae aelwydydd ledled y sir yn cael eu hannog i ailgylchu deunyddiau pecynnu metel gan gynnwys caniau bwyd a diod, ffoil alwminiwm a dysglau ffoil, yn ogystal ag erosolau gwag a chaeadau poteli metel.

Bydd y rhaglen 'MetalMatters' sy'n cael ei hyrwyddo gan Sefydliad Ailgylchu Pecynnau Alwminiwm, (Alupro), yn defnyddio negeseuon digidol penodol ac ar gyfryngau cymdeithasol, ymweliadau ag ysgolion a thrwy estyn allan i'r gymuned i gyfleu buddion eang ailgylchu deunyddiau pecynnu metel o'ch cartref. 

Gan gychwyn ym mis Mehefin, y gobaith yw y bydd yr ymgyrch sy'n para am chwe wythnos, yn ymgysylltu â mwyafrif y 67,000+ o aelwydydd ym Mhowys. Ers ei lansio yn 2012, mae dros 121 o awdurdodau lleol wedi mabwysiadu MetalMatters, ac mae cyfraddau ailgylchu wedi gwella o ganlyniad.

Matt Perry, Prif Swyddog Cyngor Sir Powys - Lle: "Gwyddom fod y mwyafrif helaeth o bobl yma ym Mhowys yn wych am ailgylchu, ond gyda'n gilydd gallwn wneud ymdrech i wneud rhagor.

"Mae MetalMatters yn caniatáu inni ymgysylltu â thrigolion a'u hannog i feddwl am eu harferion ailgylchu a deall sut i ailgylchu eu deunyddiau pecynnu metel o'u cartrefi megis caniau bwyd a diod, dysglau ffoil, ffoil a ddefnyddir i lapio pethau, erosolau gwag a chaeadau metel poteli a jariau.

"Wrth ystyried, ar gyfer pob can alwminiwm a ailgylchir y gallwn arbed digon o ynni i redeg teledu am dair awr, gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth enfawr trwy ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl."

Ychwanegodd Tom Giddings, cyfarwyddwr gweithredol Alupro: "Ers dros ddegawd mae ein rhaglen MetalMatters wedi addysgu'r cyhoedd ynghylch buddion a phwysigrwydd ailgylchu deunyddiau pecynnu metel. Rydym yn hyderus y bydd cyflwyno'r ymgyrch hwn yn helpu cynyddu cyfraddau ailgylchu a nifer yr aelwydydd ledled Powys sy'n cymryd camau positif.

"Inni, y neges bwysicaf yw y gellir ailgylchu metel yn ddiddiwedd, sy'n golygu na fydd ansawdd a nodweddion y metel yn cael eu newid yn ystod y broses ailgylchu.  Gall gwneud ychydig o fân newidiadau arwain at effaith amgylcheddol enfawr."

Nod MetalMatters, sy'n cael ei ariannu gan y diwydiant pecynnau metel, yw addysgu aelwydydd ynghylch buddion ailgylchu deunyddiau pecynnu metel a'u hannog i ailgylchu. Fe'i dyluniwyd i ategu cynlluniau ailgylchu ochr y ffordd - gall unrhyw awdurdod lleol redeg cynllun MetalMatters, naill ai ar lefel ranbarthol, fesul rownd casglu, neu hyd yn oed trwy dargedu ardal ddemograffeg.

Am ragor o wybodaeth ar gynllun MetalMatters, neu i gofrestru diddordeb, ewch i: www.metalmatters.org.uk