Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith ar y gweill i ddod â band eang cyflymach i gymunedau gwledig Powys

A person completing a checklist on a tablet computer

18 Mehefin 2024

A person completing a checklist on a tablet computer
Mae'r gwaith wedi dechrau i ddod â band eang cyflym a dibynadwy i rai o rannau mwyaf anghysbell Powys ar ôl i'r cyngor sir ddyfarnu contract i Grŵp BT.

Mae Openreach yn rheoli'r gwaith adeiladu rhyngrwyd ffibr llawn ar gyfer BT, fydd yn cysylltu 24 o 'safleoedd anodd eu cyrraedd' ond a fydd yn fuddiol hefyd i o leiaf 78 safle arall ar hyd y llwybr iddynt, ac efallai cymaint â 119.

Mae'r gwaith arolygu a chynllunio fod i ddechrau ar y rhan fwyaf o safleoedd cyn bo hir, a dylai'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Bydd yr ardaloedd hyn ym Mhowys yn elwa o'r gwaith adeiladu rhyngrwyd ffibr llawn:

  • Forest Coal Pit (NP7 7LY) - chwe safle anodd eu cyrraedd.
  • Llanfair ym Muallt (LD2 3YR) - tri safle anodd eu cyrraedd.
  • Cegidfa (SY21 9DB) - un safle anodd ei gyrraedd.
  • Y Bontnewydd ar Wy (LD1 6HB, LD1 6LN & LD1 6LS) - pedwar safle anodd eu cyrraedd.
  • Llandrindod (LD1 6SY & LD1 6SP) - dau safle anodd eu cyrraedd.
  • Llanfyllin (SY22 5LZ) - un safle anodd ei gyrraedd.
  • Erwyd (LD2 3EQ, LD2 3EZ, LD2 3PQ & LD2 3EX) - saith safle anodd eu cyrraedd.

Llwyddodd Gwasanaethau Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys i gael y cyllid i dalu am y gwaith trwy Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwaith hefyd yn rhan o Raglen Trawsnewid Digidol Powys.

"Gwyddom fod mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy yn bwysig i'n busnesau a'n trigolion," meddai Ellen Sullivan, Pennaeth Gwasanaethau Digidol Cyngor Sir Powys, "ac, er bod nifer y safleoedd fydd yn elwa o'r prosiect hwn yn weddol isel, maent i gyd mewn ardaloedd sy'n annhebygol o gael rhyngrwyd ffibr llawn heb gymorth cyllid grant.

"Gall cael cysylltedd gwell fod o gymorth gwirioneddol o safbwynt sicrhau'r un cyfleoedd ar gyfer rhai o'n cymunedau mwyaf gwledig."

Ychwanegodd Susi Marston, Pennaeth Llywodraeth Leol ac Addysg yng Nghymru ar ran Grŵp BT: "Mae mynediad at fand eang cyflym iawn a dibynadwy yn hanfodol yn y byd cyfoes ac mae'n tanategu cymaint o agweddau ar ein bywydau dyddiol. O helpu gwella gwasanaethau iechyd megis gofal iechyd, i helpu busnesau a thrigolion gael mynediad at y dechnoleg ddiweddaraf, mae cysylltedd da bellach mor bwysig i bob cymuned. Ac mae hynny'n berthnasol os ydych chi'n byw yng nghanol dinas brysur, neu mewn lleoliad gwledig.

"Pleser mawr yw cael gweithio gyda Chyngor Powys i ddod â band eang cyflym i rai o ardaloedd mwyaf anghysbell y sir."

Ceir rhagor o wybodaeth ar wella eich cysylltedd digidol ym Mhowys ar wefan y cyngor sir: Powys Ddigidol