Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Gwobr i bartneriaeth economaidd ac amgylcheddol traws-ffiniol

The River Tanat

19 Mehefin 2024

The River Tanat
Cafodd Partneriaeth Afon Hafren gydnabyddiaeth a gwobr am ei gwaith rhagorol yng Ngwobrau LGC (Local Government Chronicle) 2024.

Enillodd y Bartneriaeth y categori cyhoeddus/partneriaeth gyhoeddus, sy'n cydnabod sefydliadau am arddangos ymagwedd arloesol at wella gwasanaethau, effeithiolrwydd ac ychwanegu gwerth sylweddol at gymunedau lleol.

Nod Partneriaeth Afon Hafren, cydweithrediaeth traws-ffiniol, aml-sector, yw adeiladu cydnerthedd a ffyniant i'r 2.6 miliwn o bobl sy'n byw ger glannau afon hiraf y DU.

Mae'r Partneriaid yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Cyngor Swydd Amwythig, Cyngor Telford & Wrekin, Cyngor Swydd Henffordd, Cyngor Swydd Gaerwrangon, Cyngor Swydd Warwick, Cyngor Swydd Gaerloyw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England, Severn Trent Water, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, a sefydliadau academaidd fel Prifysgol Dinas Birmingham.

Dywedodd y beirniaid: "Llongyfarchiadau i Gyngor Swydd Amwythig (y brif sefydliad), Partneriaeth Afon Hafren. Sef partneriaeth nodedig ac unigryw ar raddfa fawr sy'n torri ar draws ffiniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gan effeithio'n fawr iawn ar 2.6m o breswylwyr.

"Mae'r bartneriaeth yn wirioneddol arddangos y pŵer a geir wrth ddod ynghyd a darparu y tu hwnt i alluoedd un partner unigol, hyd yn oed gyda'r heriau o weithio ar draws gwahanol fodelau llywodraethiant a blaenoriaethau partner. Mae troi'r broblem o lifogydd a newid hinsawdd o gwmpas i fod yn gyfle yn hytrach na bod yn her yn unig, yn wirioneddol drawiadol."

Dywedodd LGC fod cystadleuwyr eleni wedi arddangos ymarfer rhagorol yn ogystal â'r arloesedd diweddaraf, ac roedd y beirniaid wedi cael eu plesio'n fawr gan y safon uchel iawn.

Dywedodd yr Athro Mark Barrow, cyd-gadeirydd Partneriaeth Afon Hafren, "Rydym ni wrth ein boddau fod y beirniaid wedi cydnabod y bartneriaeth am yr hyn ydyw, sef enghraifft ardderchog o weithio traws-ffiniol ac aml-asiantaethol.

"Ers ei dechreuad, mae'r bartneriaeth, sy'n cael ei chyd-gadeirio gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Swydd Amwythig, wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu arian ac mae ar y trywydd iawn i wneud Dalgylch Hafren y rhwydwaith afon mwyaf bywiog a chydnerth ym Mhrydain, ble mae ansawdd bywyd eithriadol, economïau ffyniannus lleol, ac amgylchedd naturiol eithriadol yn cael eu llywio gan raglen arloesol i leihau'r risg o lifogydd, sicrhau adnoddau dwr yn y dyfodol a darparu asedau naturiol a rennir."