Cyngor yn prynu pedwar cartref newydd ar gyfer rhent cymdeithasol
![Image of new homes purchased by the council](/image/21327/Image-of-new-homes-purchased-by-the-council/standard.png?m=1718877322003)
20 Mehefin 2024
![Image of new homes purchased by the council](/image/21327/Image-of-new-homes-purchased-by-the-council/gi-responsive__100.png?m=1718877322003)
Mae Tîm Datblygu Tai Newydd Cyngor Sir Powys wedi prynu'r tai dwy ystafell wely fel rhan o'r ymdrechion i gynyddu nifer y tai cymdeithasol fforddiadwy a diogel y gall eu cynnig i bobl Powys.
Prynwyd y tai fel rhan o Gynllun 'Oddi ar y Silff' gan Morgan Homes, sy'n adeiladu 110 o gartrefi newydd ym Mharc Brynygroes yn Ystradgynlais.
Fel rhan o'r caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, dyrannwyd pedwar o'r unedau tai ar gyfer tai fforddiadwy gyda'r unedau sy'n weddill i'w gwerthu ar y farchnad agored gan y datblygwr.
Bydd y Cynllun 'Oddi ar y Silff' hwn yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Gynllun Busnes Tai - 'Gartref ym Mhowys', rhaglen bum mlynedd fydd yn galluogi'r cyngor i ddarparu mwy o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol.
Meddai Matt Perry, Prif Swyddog 'Lle', Cyngor Sir Powys: "Mae gan y cyngor gynllun uchelgeisiol i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir a bydd y pryniant 'oddi ar y silff' hwn yn ein helpu i gyrraedd y nod.
"Rydym am sicrhau mwy o gartrefi cymdeithasol ar draws y sir, naill ai drwy adeiladu cartrefi cyngor newydd ein hunain, gweithio gyda phartneriaid cymdeithasau tai neu drwy weithio gyda datblygwyr tai a chytuno ar gytundebau pecyn yn y dyfodol.
"Bydd hyn wedyn yn ein galluogi i ddarparu mwy o dai cymdeithasol sy'n diwallu anghenion ein preswylwyr ac yn sicrhau ein bod yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys."