Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Ein Hymrwymiad

Parc Brynygroes

Bydd yr eiddo o ansawdd da, yn gynaliadwy, yn ynni effeithlon ac yn fforddiadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol ledled Powys. Caiff eiddo eu dyrannu i ymgeiswyr cymwys sydd ar y Gofrestr Tai Cyffredin, yn unol â Dyraniadau'r Cynllun. Os ydych chi am ymuno â'r Cofrestr Tai Cyffredin, dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth: http://www.homesinpowys.org.uk/

Gwasanaethau Tai Powys yw'r lle i ddod iddo pan fyddwch chi wirioneddol am wybod sut i adeiladu tai cyngor.

Y mis Mehefin 2024, derbyniodd Tîm Datblygu Tai Cyngor Sir Powys ganlyniad gwirioneddol gadarnhaol oddi wrth Banel Craffu datblygu tai Llywodraeth Cymru pan wnaethon nhw dderbyn a chymeradwyo dyluniadau Math Safonol o Dy y Cyngor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y buddsoddiad a'r ymrwymiad y mae'r Tîm Datblygu Tai wedi ei roi i'r prosiect hwn. Ym mis Mehefin 2024, yng nghyfarfod Arweinyddiaeth Tai Cymru, o Benaethiaid Tai ac uwch gydweithwyr eraill tai ledled Cymru, cafodd Cyngor Sir Powys ei ddyfynnu'n gyhoeddus gan Gyfarwyddwr Tai ac Adfywio LlC (Emma Williams) ynghyd â Chaerdydd fel seren arweiniol ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd i eraill ei efelychu. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu