Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Dymchwel hen adeilad ysgol

Image of former school building in Bronllys

25 Mehefin 2024

Image of former school building in Bronllys
Mae'r cyngor sir wedi datgan y bydd gwaith i ddymchwel hen adeilad ysgol yn ne Powys yn dechrau wythnos nesaf.

Bydd Cyngor Sir Powys yn goruchwylio dymchwel hen ysgol Bronllys gyda'r gwaith yn dechrau ddydd Llun, 1 Gorffennaf. Mae'r adeilad wedi bod yn wag ers i'r ysgol gau yn 2017.

Mae'r gwaith dymchwel yn cael ei wneud ar sail iechyd a diogelwch ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf.  Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Bond Demolition ar ran y cyngor rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cymeradwywyd caniatâd cynllunio yn 2021 ar gyfer 17 o anheddau ar safle hen adeilad yr ysgol.  Fodd bynnag, mae'r datblygiad yn aros ar ganlyniad cais ar gyfer maes pentref sy'n cael ei ystyried fel rhan o broses ffurfiol.

Dywedodd Matt Perry, Prif Swyddog Lle y cyngor: "Yn ystod y cyfnod dymchwel, bydd yr ardal yn safle gweithredol gyda cherbydau mawr yn defnyddio'r safle. Rydym yn gofyn i drigolion lleol gymryd gofal ychwanegol os ydynt yn yr ardal.

"Hoffem ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith hwn ei achosi, ond bydd y cyngor a'i gontractwr yn gwneud eu gorau glas i gadw unrhyw darfu i'r lefel lleiaf posibl."