Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Porth newydd yn dangos coed gwarchodedig ac ardaloedd cadwraeth

Bron y Buckley Wood in Welshpool

28 Mehefin 2024

Bron y Buckley Wood in Welshpool
Bydd ap gwe newydd a grëwyd gan Gyngor Sir Powys yn helpu trigolion a datblygwyr i nodi pa goed yn eu cymdogaethau sy'n cael eu diogelu.

Ni ellir cwympo coed, eu torri yn ôl na'u difrodi os ydynt wedi eu cynnwys o dan orchymyn cadw (GCC), neu mewn ardal gadwraeth, heb gael caniatâd i wneud y gwaith yn gyntaf.

Mae miloedd o goed yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (pob rhan o'r sir y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) wedi'u cynnwys dan GCC neu o fewn ardal gadwraeth: Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Maent yn cynnwys:

  • Y goeden ddaeth yn ail i Goeden y Flwyddyn Cymru 2019 - poplysen ddu a ddarganfuwyd ym Maes Parcio Gravel Lane, Y Drenewydd. Amcangyfrifir ei fod dros 350 mlwydd oed ac mae'n enghraifft wych o rywogaeth coed brodorol prinnaf y DU.
  • Coed Bron y Buckley, Y Trallwng, coetir hynafol gyda derw, ffawydd, onnen a masarn, a reolir gan Coed Cadw: https://www.woodlandtrust.org.uk/visiting-woods/woods/bron-y-buckley/

"Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein hamgylchedd naturiol trawiadol yn cael ei diogelu" meddai Gwilym Davies, Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio Cyngor Sir Powys, "ac mae'r adnodd newydd hwn yn ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i bobl wirio pa goed sy'n cael eu gwarchod a pha rai sydd ddim. 

"Mae coed yn rhan bwysig o lawer o'n mannau gwyrdd, sydd mor hanfodol i les pobl, ac maen nhw hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd."

Crëwyd y porth gwe newydd gan Dîm Datblygu Digidol y cyngor a'i Wasanaethau Cynllunio fel rhan o'i Raglen Trawsnewid Digidol Powys sy'n ceisio defnyddio technolegau newydd i wneud ei wasanaethau'n fwy hygyrch a chyfleus i'w defnyddio.

LLUN: Coed Bron y Buckley yn Y Trallwng.