Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Cymeradwyo cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai

Image of an artist's impression of a new housing development in Welshpool

1 Gorffennaf 2024

Image of an artist's impression of a new housing development in Welshpool
Cymeradwywyd cais cynllunio i adeiladu 16 byngalo mewn tref yng ngogledd Powys, dywedodd y cyngor sir.

Cyflwynodd Cyngor Sir Powys gynlluniau a fyddai'n gweld byngalos ecogyfeillgar ag inswleiddio trylwyr yn cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Feithrin a Babanod yr Eglwys yng Nghymru Gungrog, y Trallwng.

Cafodd y cais cynllunio ar gyfer y datblygiad ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy'r cyngor ddydd Iau, 27 Mehefin.

Fel rhan o'r datblygiad bydd adeilad yr hen ysgol yn cael ei ddymchwel i greu lle i'r byngalos newydd.

Bydd y cartrefi newydd dan berchnogaeth a rheolaeth y cyngor, ac yn cael eu clustnodi i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - sef siop un stop ar gyfer holl dai cymdeithasol y sir.

Dywedodd Matt Perry, Prif Swyddog - Lle, Cyngor Sir Powys : "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael ag argyfwng tai yn y sir a gellir cyflawni hyn drwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel. Bydd y datblygiad hwn yn y Trallwng yn bwysig wrth i ni geisio bodloni'r flaenoriaeth hon.

"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn darparu unedau tai o ansawdd uchel sydd wedi eu dylunio'n dda er mwyn diwallu anghenion preswylwyr Powys yn well."