Gosod Pont Teithio Llesol y Drenewydd yn ei lle
1 Gorffennaf 2024
Yn dilyn ychydig o oedi oherwydd amodau tywydd anffafriol, cafodd y bont newydd, sy'n mesur 53 metr o hyd i'w lle uwchben yr Afon Hafren brynhawn Sadwrn.
Roedd y craen mawr yn dominyddu'r ardal gyfagos yn y dref am ran helaeth o'r wythnos, ond oherwydd gwyntoedd cryf anghyffredin, bu'n rhaid gohirio gosod y bont yn ei lle am gwpl o ddyddiau. Diolch byth, dros y penwythnos roedd y tywydd yn dawelach, ac roedd y criwiau ar y safle'n gallu llwyddo i gyflawni'r holl wiriadau diogelwch angenrheidiol, ac o'r diwedd llwyddwyd i symud y strwythur enfawr i'w lle'n ofalus.
Wrth gydnabod y cynllunio manwl oedd yn angenrheidiol ar gyfer y rhan yma o'r prosiect, dywedodd Matt Perry, Prif Swyddog Lle Cyngor Sir Powys; "Gyda thasg mor enfawr â hon, mae angen gwaith paratoi a chydweithredu manwl sylweddol, a dymunwn ddiolch i'r contractwyr, JN Bentley, YGC, R&R Engineering a Ainscough Crane Hire am eu gwaith caled a'u diwydrwydd.
"Hefyd hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad trwy gydol y prosiect hwn, yn enwedig y sawl oedd yn gorfod symud tu allan i'r parth diogelwch brynhawn Sadwrn."
Bydd y gwaith i gwblhau'r gwaith ar y strwythur, llawr y bont a'r llwybrau cysylltu'n parhau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd NCR 81 (Llwybr Beicio Cenedlaethol) ar ochr orllewinol y bont ar gau dros dro am ychydig o ddyddiau. Bydd arwyddion a llwybrau'r gwyriad yn cael eu harddangos ar y safle.
Ariannwyd y bont gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru; bydd y strwythur dur, un rhychwant, gyda bwa agored, yn cysylltu llwybr glan yr afon, cymunedau, busnesau ac amwynderau ar ochr orllewinol Afon Hafren â Ffordd y Trallwng ar yr ochr ddwyreiniol.
Bydd y prosiect hwn yn ychwanegu at y rhwydwaith cynyddol o lwybrau teithio llesol ledled y sir, ac yn ei wneud yn rhwyddach i drigolion y Drenewydd wneud teithiau byr, megis i'r gwaith, i'r ysgol neu'r siopau lleol, ar feic neu ar droed, yn hytrach na gorfod defnyddio'r cerbyd.
Llun: Strwythur y bont fawr yn cael ei chodi i'w lle uwchben Afon Hafren.