Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Y Cyngor yn cael ei gydnabod fel cyflogwr sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog

Proudly supporting those who serve. Falch o gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu.

2 Gorffennaf 2024

Proudly supporting those who serve. Falch o gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu.
Heddiw (dydd Mawrth 2 Gorffennaf) mae Cyngor Sir Powys wedi cael ei gydnabod fel un o ddim ond 19 o gyflogwyr yng Nghymru a fydd yn derbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer 2024.

Mae'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr yn cydnabod y rheiny sydd wedi dangos eu cefnogaeth ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog trwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i'r cyngor mewn seremoni yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf.

Er mwyn ennill y wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o'u polisïau recriwtio. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau bod eu gweithlu'n ymwybodol o'u polisïau cadarnhaol tuag at faterion Amddiffyn ar gyfer milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, oedolion sy'n gwirfoddoli gyda lluoedd cadetiaid, a phriod a phartneriaid y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

I gael gwybod mwy am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr a sut y gall eich busnes elwa ar gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog: https://www.gov.uk/government/publications/defence-employer-recognition-scheme

Dywedodd Jane Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Powys: "Fel rhan o'n cynllun cydraddoldeb corfforaethol a strategol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi 'cyflogaeth gynaliadwy o ansawdd da' ac mae ein cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog yn rhan allweddol o'r addewid hwn.

"Mae gan aelodau'r gymuned hon lawer i'w gynnig i'r cyngor, a chyflogwyr eraill ym Mhowys, o ran y sgiliau maen nhw wedi'u datblygu ond hefyd y ddawn maen nhw eisoes wedi'i harddangos ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus."