Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gelli Gandryll i groesawu Siecbwynt Rali Cerbydau Trydan

Image of an electric rally car

3 Gorffennaf 2024

Image of an electric rally car
Yr wythnos hon, mae fflyd o 50 o gerbydau trydan yn cystadlu yn Rali A-Z Cerbydau Trydan 2024, ac yn teithio dros 1,400 milltir ledled Cymru a Lloegr ac yn cofnodi eu taith mewn lleoliadau strategol yn nhrefn yr wyddor.

Y Gelli (Y Gelli Gandryll), fydd y stop olaf ond un ar y rali bum niwrnod gyda'r cerbydau trydan yn gwefru am y tro olaf ddydd Gwener 5 Gorffennaf, cyn mynd i fyny i Ystâd 'Carbon Sero' y Rhug.

Mae'r rhwydwaith o bwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar draws Powys yn tyfu bob blwyddyn. Eglurodd Matt Perry, Prif Swyddog Cyngor Sir Powys - Lle: "Ochr yn ochr â rhwydwaith cynyddol o bwyntiau gwefru cerbydau trydan preifat, mae Powys hefyd yn elwa o osod cyfleusterau gwefru mewn 13 maes parcio sy'n eiddo i'r cyngor mewn lleoliadau allweddol ar draws y sir.

"Rydym yn parhau i fynd ar drywydd cyfleoedd buddsoddi i ehangu'r rhwydwaith hwn ymhellach, gyda phum lleoliad arall yn cael eu hychwanegu yn fuan at seilwaith mannau gwefru Cerbydau Trydan Powys.

"Gofynnir i ni yn aml a yw cerbydau trydan yn ddewis ymarferol ar gyfer sir mor eang, ond mae ein defnydd o lorïau sbwriel trydan, ysgubwyr ffyrdd a cherbydau fflyd yn profi y gall y dull teithio ecogyfeillgar hwn ein helpu i gyflawni ein huchelgais i leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2030."

Meddai Colin Boyton, rheolwr y digwyddiad, "Mae llwybr y rali yn cynnwys llawer o'r mannau harddaf ledled y DU, ond yn bwysicaf oll, mae'n arddangos y seilwaith gwefru ar yr un pryd yn ogystal ag arddangos galluoedd cerbydau trydan.

"Mae cynllunio'r llwybr i'w ddilyn yn ehangder helaeth canolbarth Cymru yn dangos pa mor dda y mae'r cerbydau hyn yn perfformio a sut y gellir cynllunio teithiau gyda'r rhwydwaith cynyddol o bwyntiau gwefru Cerbydau Trydan sydd ar gael i bawb eu defnyddio."

Am ragor o wybodaeth am wefru Cerbydau Trydan ym Mhowys, ewch i: Gwefru Cerbydau Trydan

Am ragor o wybodaeth am y Rali Cerbydau Trydan, ewch i: Tudalen Hafan | Rali Cerbydau Trydan 2024 (ev-rally.co.uk)

Llun gan Colin Boyton

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu