Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Lleihau Niwed Fepio

Peidiwch ag ysmygu, peidiwch â dechrau fepio.

Er yr ystyrir bod dyfeisiau fepio'n sylweddol llai niweidiol nag ysmygu tybaco, does dim digon o dystiolaeth i wybod beth fydd effeithiau hirdymor potensial fepio. Gall oedolion sy'n ysmygu lleihau'r risg oherwydd ysmygu trwy newid yn llwyr i fepio; er hynny, ni argymhellir fepio ar gyfer pobl nad ydynt yn ysmygu.  Os nad ydych chi'n ysmygu, peidiwch â dechrau fepio.

Dengys ymchwil diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 20% o ddysgwyr ysgol uwchradd wedi rhoi cynnig ar fepio. Ni argymhellir fepio ar gyfer plant na phobl ifanc, nac ychwaith unrhyw un sydd heb ysmygu erioed, oherwydd nid yw fepio'n hollol ddi-niwed. Yn y tymor byr, hwyrach y bydd pobl yn dioddef o ben tost, dolur gwddf, penysgafnder a pheswch. Gall fepio arwain at ddibyniaeth ar nicotin. Gall dibyniaeth ar nicotin gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles, a gall amharu ar eich bywyd a'ch addysg.

Yn ogystal, mae dyfeisiau fepio tafladwy, defnydd unigol yn achosi niwed i'r amgylchedd; mae dros 50% o ddyfeisiau fepio defnydd unigol yn y DU yn mynd i safleoedd tirlenwi, lle maent yn torri lawr ac yn rhyddhau cemegau peryglus.

Mae'n anghyfreithlon gwerthu dyfeisiau fepio sy'n cynnwys nicotin i unrhyw un dan 18 oed, neu i oedolion eu prynu ar ran pobl ifanc dan 18 oed.

Vaping info

Cefnogaeth i roi'r gorau i Fepio

Os ydych chi'n fepio ar hyn o bryd, ac rydych chi'n byw ym Mhowys, ac yn awyddus i gael cefnogaeth i roi'r gorau iddo, mae llwyth o gymorth ar gael ichi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Cefnogaeth i roi'r gorau i Fepio)

Cefnogaeth i roi'r gorau i Fepio

Os ydych chi'n fepio ar hyn o bryd, ac rydych chi'n byw ym Mhowys, ac yn awyddus i gael cefnogaeth i roi'r gorau iddo, mae llwyth o gymorth ar gael ichi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Cefnogaeth i roi'r gorau i Fepio)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu