Canllawiau i Ysgolion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau cynhwysfawr ar fepio ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd yng Nghymru.
Cynyddodd cyfran y plant ym mlynyddoedd 7 i 11 yng Nghymru sy'n dweud eu bod yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos i 7% yn 2023, cynnydd o 5.4% yn 2021 a 2.7% yn 2019, a hynny yn ôl ffigurau gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion. Mae'r data'n dangos bod 19.6% o bobl ifanc (11 i 16 oed) wedi rhoi cynnig ar fepio ym Mhowys, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o 20.4%.
Mae'r arweiniad ar gael yma: Gwybodaeth a Chanllawiau ar Fêpio i Ddysgwyr Oedran Uwchradd yng Nghymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)