Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Ymunwch â'r 'Crefftwyr Campus' yr Haf hwn!

Cartoon of children playing outside with 'Crefftwyr Campus' in big letters at the top

9 Gorffenaf 2024

Cartoon of children playing outside with 'Crefftwyr Campus' in big letters at the top
Anogir plant ledled Powys i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf a thanio'u dychymyg trwy bŵer darllen a mynegiant creadigol.

Eleni, mae'r Asiantaeth Ddarllen wedi partneru gyda Create, elusen gelfyddydol flaenllaw, i greu her sy'n dathlu creadigrwydd a galluoedd adrodd straeon plant.

I gymryd rhan:

  • Ymwelwch â'ch llyfrgell leol: llenwch y cerdyn cofrestru a derbyn ffolder casglu arbennig wrth ddechrau eich Her.
  • Cofrestrwch arlein: Ewch i https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/ a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Mwy Diogel: "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i annog plant i barhau i ddarllen drwy gydol gwyliau'r haf. Mae'n caniatáu iddynt feithrin sgiliau a hyder cyn i'r flwyddyn ysgol newydd ddechrau.

"Mae thema 'Crefftwyr Campus' eleni yn darparu digon o gyfleoedd i blant archwilio eu dychymyg a datgloi eu crefftwr mewnol trwy bŵer darllen."

Anelir Sialens Ddarllen yr Haf at blant rhwng 4 ac 11 oed ac fe'i cynhelir rhwng dydd Sadwrn 6 Gorffennaf ac 14 Medi.

Mae gan lyfrgelloedd Powys amrywiaeth o lyfrau ar gael ar gyfer yr her, yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys llyfrau lluniau, llyfrau darllen cyflym, llyfrau stori, llyfrau gwybodaeth a llyfrau comig.

Nod yr her yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen 6 llyfr dros wyliau'r haf. Os byddwch yn cofrestru yn eich llyfrgell leol, byddwch yn derbyn ffolder casglu am ddim a gallwch gasglu sticeri arbennig wrth i chi ddarllen eich llyfrau. Bydd y rhai sy'n cwblhau'r her yn derbyn medal a thystysgrif, taleb nofio am ddim i deuluoedd, trwy rodd garedig gan Freedom Leisure, ac yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill gwobr.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.facebook.com/storipowysplant neu cysylltwch â'r gwasanaeth llyfrgell ar library@powys.gov.uk neu 01874 612394.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu