Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio ar y cyd er mwyn cadw strydoedd Aberhonddu yn lân

Small electric road sweeper

8 Gorffennaf 2024

Small electric road sweeper
Wrth weithio ar y cyd, mae Cyngor Tref Aberhonddu a Chyngor Sir Powys yn gwneud yn siŵr fod y 'sgubwr ffordd trydanol bach yn Aberhonddu yn cadw'n brysur wrth iddo lanhau a thacluso'r dref.

Pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, mae'r 'sgubwr sero-allyriadau ar gael i gyngor y dref, a bydd y gofalwr, Alex Jones, yn ei ddefnyddio i wneud ychydig yn fwy o lanhau oddi fewn i'r dref.

"Rydym ni'n wirioneddol ddiolchgar o weithio ar y cyd yn y modd hwn gyda Chyngor Sir Powys" dywedodd Fiona Williams, clerc Cyngor Tref Aberhonddu. "Wrth ein galluogi ni i ddefnyddio'r 'sgubwr ffordd trydanol bach, mae ein cynghorwyr wedi nodi gwelliant ar unwaith o ran glendid yn y dref. Mae Siambr Fasnach a Thwristiaeth Aberhonddu hefyd wedi sylwi ar y gwahaniaeth a mynegi eu diolch." 

I ddechrau, cafodd Alex, sydd yn y llun gydag Archwiliwr Priffyrdd Cyngor Sir Powys, Vincent Playdon, hyfforddiant llawn ar sut i weithio'r peiriant, ac nawr mae e'n gweithio ar y cyd â'r tîm priffyrdd i wneud yn siŵr fod pob ardal o Aberhonddu yn edrych ar ei gorau.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach; "Gweithio ar y cyd fel hyn yw'r ffordd ymlaen at Bowys fwy gynaliadwy. Mae wedi bod mor wych i weld sut mae amgylchedd lleol canol tref Aberhonddu wedi gweld gymaint o welliant drwy weithio ar y cyd gyda chyngor y dref. Byddwn ni'n rhagweithiol wrth chwilio am gyfle i gydweithio gyda chynghorau tref a chymuned eraill yn y modd hwn ledled y sir yn y dyfodol."

Ffoto: Archwiliwr Priffyrdd Cyngor Sir Powys, Vincent Playdon a Gofalwr Cyngor Tref Aberhonddu, Alex Jones gyda'r 'sgubwr ffordd trydanol bach.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu