Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Dechrau'n Deg

Flying Start

Flying Start logo
Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen i deuluoedd â phlant rhwng 0 a 4 mlwydd oed sy'n cynnig:

  • gofal plant rhan-amser, wedi'i ariannu o safon uchel am ddim i blant 2-3 oed
  • rhaglenni rhianta am ddim
  • mwy o wasanaeth gan Ymwelwyr Iechyd
  • cymorth iaith a lleferydd  

Mae Dechrau'n Deg wedi'i dargedu at godau post penodol ar draws Powys.  Darganfyddwch a ydych yn gymwys trwy ddefnyddio ein gwiriwr cod post hawdd isod

Cyflwyno Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg yn cynnwys pedair elfen graidd - gofal plant o safon uchel, wedi'i ariannu, cymorth i'r teulu trwy raglenni'r Blynyddoedd Rhyfeddol, mwy o wasanaeth gan yr Ymwelydd Iechyd, a chymorth ar gyfer datblygu iaith yn y blynyddoedd cynnar.

Gofal plant rhan-amser o safon uchel wedi'i ariannui blant 2-3 oed

Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant o safon i rieni pob plentyn 2-3 blwydd oed sy'n gymwys am 2 a hanner awr y diwrnod, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn ac o leiaf 15 sesiwn o ddarpariaeth ar gyfer y teulu yn ystod y gwyliau ysgol.

Mynediad at Raglenni Rhianta

O leiaf unwaith y flwyddyn bydd cymorth rhianta ffurfiol yn cael ei gynnig i bob teulu sydd â phlentyn Dechrau'n Deg. Gall hyn fod mewn grwpiau neu ar sail un i un yn y cartref gyda chyfuniad o gymorth ffurfiol ac anffurfiol gan ddibynnu ar yr angen.

Mwy o wasanaeth gan Ymwelwyr Iechyd

Gellir darparu cymorth a chefnogaeth ar amrywiaeth o faterion a all fod yn effeithio arnoch chi a'ch teulu. Mae'r rhain yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, arferion cwsg, hyfforddiant i ddefnyddio'r poti a phroblemau ymddygiad. Gallwn hefyd eich cyfeirio neu eich atgyfeirio at asiantaethau eraill o fewn a thu allan i Ddechrau'n Deg os oes angen.

Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu

Ein nod yw sicrhau bod pob teulu mewn ardal Dechrau'n Deg yn cael mynediad parhaus at gymorth iaith a lleferydd.

Rheolwyr Cymunedol Dechrau'n Deg

Yn ychwanegol at y pedair elfen graidd, mae gan deuluoedd Dechrau'n Deg yn y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais fynediad at reolwr cymunedol dynodedig. Rôl y rheolwyr cymunedol yw gwneud yn siŵr eu bod ar gael i wrando ar anghenion y gymuned a gweithio gyda phobl a gwasanaethau allweddol i helpu i ymateb i'r anghenion hynny.

Drwy gyfrwng ein rheolwyr cymunedol hefyd yr ydym yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau neu'n gweithio gyda phartneriaid i ddod â digwyddiadau i'r gymuned.

Ein nod yw helpu i sicrhau bod eich profiad o fod yn aelod o gymuned Dechrau'n Deg yn un cadarnhaol ac yn rhoi boddhad.

Cysylltiadau Rheolwyr Cymunedol:

Ehangu gan Lywodraeth Cymru

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ehangu Dechrau'n Deg i fwy o deuluoedd ledled Cymru, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod mwy o deuluoedd sy'n byw ym Mhowys yn gallu elwa ar 12 ½ o ofal plant o ansawdd uchel wedi'i ariannu bob wythnos yn un o'n darparwyr Dechrau'n Deg cymeradwy.

Gwiriwch eich cod post i weld pa elfennau o'r Rhaglen Dechrau'n Deg rydych chi'n gymwys i'w derbyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu